Dewis cwrs
Pa un a ydych eisiau newid gyrfa, cael dyrchafiad, dychwelyd i weithio, dechrau eich busnes eich hun neu ddatblygu hobi, gallwch gyflawni rhywbeth arbennig gyda’n cyrsiau rhan-amser.
Mae gennym gannoedd o gyrsiau ichi ddewis o’u plith, ac rydym yn falch o helpu miloedd o bobl fel chi bobl blwyddyn i gymryd y cam nesaf tuag at le yn y brifysgol, cyflawni eu swydd ddelfrydol, ennill cymhwyster proffesiynol neu hyd yn oed ddysgu sgil newydd. A oes gennych ddiddordeb ond yn ansicr a allwch chi dalu’r ffioedd cwrs. Gallai Cyfrif Dysgu Personol am ddim agor y drws.
Rydym yn deall pa mor bwysig yw cadw cydbwysedd rhwng dysgu ac elfennau eraill eich bywyd, felly bydd ein cyrsiau rhan-amser hyblyg yn gwbl addas ar eich cyfer chi. A gan ein bod wedi ein lleoli ar bum campws, gallwn gynnig cyfleoedd addas i bawb yn ein cymunedau lleol.
Felly gwnewch gais heddiw; byddwch yn astudio yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru! Cliciwch ar y meysydd pwnc isod i ddod o hyd i gwrs addas i chi. Sylwch fod rhai cyrsiau ar gael ar gampysau penodol yn unig – mae’r wybodaeth ar gael ar bob tudalen cwrs.