En

Cymorth Pontio

Transition staff on red background
play

Eich siwrnai

Mae trosglwyddo o’r ysgol uwchradd i’r coleg yn daith gyffrous, llawn cyfleoedd a phrofiadau newydd. Yn Coleg Gwent, deallwn y gall y cyfnod pontio hwn fod yn heriol ar adegau, a dyna pam yr ydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Mae ein tudalen Cymorth Pontio wedi’i dylunio i ddarparu’r arweiniad, y wybodaeth a’r adnoddau a fydd eu hangen arnoch ar gyfer pontio’n ddidrafferth a llwyddiannus i’r coleg.

Cwestiynau Cyffredin

Un camsyniad cyffredin yw taw dim ond estyniad o’r ysgol uwchradd yw’r coleg. Er bod ganddyn nhw rai pethau mewn cyffredin, mae Coleg Gwent yn cyflwyno lefel newydd o annibyniaeth a chyfrifoldeb personol. Mae amgylchedd y coleg yn cynnig rhagor o ryddid ac yn mynnu bod dysgwyr yn defnyddio rhagor o fenter eu hunain wrth iddyn nhw reoli eu hastudiaethau a’u hamserlenni. Felly, bydd cyrraedd eich dosbarth a gwneud eich gwaith cwrs i fyny i chi.

Dim o gwbl. Mae Coleg Gwent yn cynnig ystod eang o gyrsiau i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o ddiddordebau a galluoedd. P’un a ydych yn rhagori yn academaidd, yn meddu ar sgiliau ymarferol, neu am ddilyn hyfforddiant galwedigaethol, mae gan Goleg Gwent gannoedd o opsiynau i weddu i’ch cryfderau a’ch uchelgeisiau.

Os ydych yn gadael yr ysgol ac yn edrych am astudio cwrs amser llawn, yna na, nid oes rhaid i chi dalu am y coleg. Os ydych chi’n edrych ar gyrsiau rhan-amser neu addysg uwch, efallai y bydd ffioedd yn berthnasol. Fodd bynnag, mae Coleg Gwent yn darparu opsiynau cymorth ariannol megis grantiau, benthyciadau myfyrwyr ac LCA i helpu myfyrwyr i gadw’r gost addysg o dan reolaeth.

Mae rhai pobl yn meddwl bod y coleg ar gyfer y rheini sydd â llwybr gyrfa clir mewn golwg. Yma yn Coleg Gwent, credwn fod y coleg yn cynnig cyfle gwerthfawr ar gyfer archwilio a darganfod. Wrth i chi ddewis eich cwrs, mae’n werth meddwl pa bynciau sydd o ddiddordeb i chi a pham. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch, byddwn yn darparu gwasanaethau canllaw gyrfa i’ch helpu i archwilio’ch opsiynau fel y gallwch wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol. A chofiwch, nid yw byth yn rhy hwyr i newid llwybrau gyrfa neu ddilyn diddordebau newydd, felly peidiwch â chynhyrfu os ydych yn ansicr.

Er bod addysg, heb os, yn rhan sylweddol o’r profiad coleg, mae llawer mwy i Coleg Gwent na dim ond astudio. Mae’r coleg yn cynnig cymuned fywiog ac amrywiol lle gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, ymuno â chlybiau, cymryd rhan mewn chwaraeon a datblygu medrau bywyd gwerthfawr. Yn ogystal â rhoi hwb i’ch CV, bydd y gweithgareddau hyn yn rhoi cyfleoedd gwych i chi wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, helpu eraill, a gwella eich iechyd a’ch llesiant.

Mae Coleg Gwent yn croesawu myfyrwyr o bob oedran a chefndir. P’un a ydych wedi gadael yr ysgol, yn ddysgwr sy’n oedolyn neu’n rhywun sydd am wella’ch sgiliau neu newid gyrfa, gall Coleg Gwent fod yn llwybr addysgol gwerthfawr ar gyfer unigolion ar unrhyw adeg o’u bywyd.

Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i’ch llwyddiant ac rydym am wneud eich trosglwyddiad i’r coleg mor ddidrafferth â phosib. Gallwch gymryd golwg ar ein gwefan, estyn allan at ein tîm, a pharatoi ar gyfer taith coleg anhygoel sy’n llawn o gynnydd, dysgu a chyfleoedd cyffrous. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gymuned Coleg Gwent!

Meddwl am Ymuno â Coleg Gwent?

Meddwl am ymuno a Coleg Gwent
play