
Mae Parth Dysgu Torfaen yn rhan o raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif, Llywodraeth Cymru. Mae’r datblygiad £24 miliwn, sy’n cael ei reoli a’i redeg gan Goleg Gwent mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn disodli tri chweched dosbarth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn y fwrdeistref ac yno y bydd holl addysg Lefel A Torfaen yn cael ei ddarparu.
Daw’r campws newydd â gwasanaethau addysg bellach ynghyd o dan yr un to i Dorfaen. Cynigir ystod eang o gyrsiau gan gynnwys cymwysterau academaidd, galwedigaethol a chymwysterau lefel prifysgol. Cynigir cyrsiau sy’n addas i bobl o bob oedran a phob math o ddysgwyr, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru. Dilynir model tebyg i Barth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy ac mae’r adeilad yn gwbl hygyrch ac yn cynnwys adnoddau arbenigol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Mae naws y campws yn iach ac ysgafn ac mae yno gyfleusterau a mwynderau modern – amgylchedd delfrydol ar gyfer dysgu ac ysbrydoli meddyliau ifanc. Ystyriwyd effaith amgylcheddol y Parth Dysgu wrth ei gynllunio, ac mae mewn lleoliad gwych y drws nesaf i siop Morrisons yng nghanol y dref. Golyga hyn ei bod yn hawdd i ddysgwyr a staff gyrraedd iddo a manteisio ar y cysylltiadau rhagorol â thrafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau lleol.