En
Architect's impression of HiVE building

Dechrau gwaith adeiladu Canolfan Beirianneg Gwerth Uchel HiVE


18 Medi 2023

Bydd y safle peirianneg gwerth uchel (HiVE) newydd yn darparu hyfforddiant ac addysg o’r math diweddaraf un ar gyfer pobl ifanc

Mae’r contractwyr ISG wedi dechrau gwaith ar safle hen ffatri Monwel Hankison, Glynebwy, i greu safle addysg ôl-16 newydd uwch dechnoleg ar gost o filiynau o bunnau.

Bydd y safle peirianneg gwerth uchel (HiVE) newydd 21,808 tr sg yn darparu hyfforddiant ac addysg o’r math diweddaraf un ar gyfer pobl ifanc a busnesau ym meysydd roboteg, uwch ddeunyddiau a gweithgynhyrchu, a thechnolegau digidol a galluogol.

Mewn partneriaeth gyda Coleg Gwent a phartneriaid diwydiant, sicrhaodd y cyngor dros £12 miliwn o raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod ag adeilad yr hen ffatri, oedd yn segur, yn ôl i ddefnydd a chreu cyfleuster HiVE.

Caiff y cyfleuster ei leoli ar y safle 1.96 erw yng Nglynebwy, safle hen adeilad Monwel Hankison ar Heol Letchworth.

Yn agos at ganol tref Glynebwy a Coleg Gwent, Hafan Dysgu Blaenau Gwent, bydd gofod addysgu ansawdd uchel gyda darpariaeth ar gyfer hyd at 600 o fyfyrwyr, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth, ardaloedd astudio ac amrywiaeth o ofodau gweithdy. Gosodir roboteg ac offer gweithgynhyrchu o’r math diweddaraf un yn y gofod a byddant ar gael i’w defnyddio gan fyfyrwyr ôl-16 a busnesau sy’n defnyddio technolegau newydd.

Yn ychwanegol, ar draws Blaenau Gwent ac ardal Blaenau’r Cymoedd, bydd gan ysgolion cynradd ac uwchradd fynediad i HiVE a byddant yn medru cael darlithwyr gwadd ac arddangosiadau i helpu dealltwriaeth o fyd gwaith drwy brofiadau byd go iawn a mynediad i offer tu allan i alluedd ysgolion, sy’n aml yn gyfyngedig.

Bydd y cyfleuster ar gael i breswylwyr o bob rhan o Gymru a bydd ganddo’r cylch gorchwyl i annog dysgwyr a myfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir i yrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Y bwriad yw cwblhau’r gwaith adeiladu erbyn Gorffennaf 2024 mewn pryd i groesawu myfyrwyr, yn cynnwys rhai sydd wedi cofrestru ar gyrsiau peirianneg yn Coleg Gwent o hydref 2014.

Caiff y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig a £3.9 miliwn o Raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru.

Gweledigaeth Cymoedd Technoleg yw creu ffocws technoleg uchel egnïol a gyda’r gorau yn y byd ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu o bob maint sy’n seiliedig yng Nghymru gan gwmpasu llawer o is-sectorau allweddol, yn cynnwys digidol, seibr, deallusrwydd artiffisal, roboteg a gweithgynhyrchu gan ddarparu swyddi heriol, gwerth chweil a gwerthfawr. Mae’r rhaglen yn anelu i annog mabwysiadu technolegau digidol a datblygu uwch dechnolegau gwerth uchel sy’n cefnogi diwydiannau o’r math diweddaraf tebyg i 5G, technoleg batri ac ymchwil i gerbydau modurol ac ac awtonomaidd.

Dywedodd Guy Lacey, Pennaeth Coleg Gwent:

“Ein gweledigaeth yw ‘newid bywydau drwy ddysgu’. Mae hyn yn golygu ein bod yn ymroddedig i’r bobl ifanc sy’n byw yn y lleoedd a wasanaethwn, gan roi’r gefnogaeth iddynt dyfu a datblygu.

“Wrth i’r economi lleol alw am fwy o arbenigedd mewn meysydd STEM, mae Coleg Gwent yn anelu i baratoi gweithlu’r dyfodol mewn cyfleuster arbenigol fydd yn rhoi mynediad i ddysgwyr i dechnoleg o’r math diweddaraf ac arloesedd sy’n adlewyrchu safonau’r diwydiant.

“Bydd arbenigwyr y diwydiant yn cefnogi gyda chwricwlwm wedi ei ddiweddaru, gan sicrhau ein bod yn cyflawni rhagoriaeth ac arbenigedd i’r ardal fydd yn cyfrannu at dwf economaidd, cynyddu cyfleoedd swydd a gwella sgiliau yn y gymuned.”

Meddai’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae hwn yn brosiect mor gyffrous a gafodd ei hwyluso gan y cyngor; mae medru datblygu cyfleuster addysg a hyfforddiant o’r math diweddaraf un yma ym Mlaenau Gwent mewn partneriaeth gyda Coleg Gwent i gefnogi ein cymuned fusnes yn newyddion gwych. Rwy’n sicr y bydd hyn yn sbardun i greu swyddi lleol sgil uchel a thwf economaidd hirdymor ar gyfer yr ardal”.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru:

“Bydd y cyfleuster newydd gwych yma yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, gan godi uchelgais a rhoi mynediad i bobl ifanc i’r sgiliau maent eu hangen ar gyfer gyrfaoedd ar gyflogau da yn niwydiannau’r dyfodol.

“Bydd  bod â chronfa o bobl ifanc dalentog yn allweddol wrth gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol o greu canolbwynt uwch dechnoleg, egnïol yn y cymoedd a denu mewnfuddsoddwyr yn y sector gweithgynhyrchu uwch.”

Darllenwch fwy am ein datblygiad adeiladu HiVE yma.