Canolfan Farchogaeth

Photo of a learner with a horse

Cyfleusterau marchogaeth ar gyfer pob math o farchog

Mae ein canolfan farchogaeth yn cynnwys arenâu dan do ac awyr agored, stablau modern ac offer safon diwydiant - delfrydol ar gyfer marchogaeth, hyfforddi a gofalu am geffylau mewn lleoliad proffesiynol.

P'un a ydych chi'n meithrin eich sgiliau neu'n chwilio am rywle o safon i reidio ynddo, mae'r ganolfan yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a llawn cyfarpar i weddu i bob lefel o brofiad.

Horse and rider in indoor arena

Digwyddiadau marchogaeth

Mae Canolfan Farchogaeth Coleg Gwent ar ein campws ym Mrynbuga, yn cynnal digwyddiadau marchogaeth yn rheolaidd, ac mae hefyd ar gael i’w llogi. Mae digwyddiadau rheolaidd yn cynnwys dressage a neidio ceffylau digysylltiad ar gyfer pob oedran a gallu. Mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ac ar agor i’r cyhoedd.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch swyddfa’r iard ar 01495 333682 neu anfon e-bost at equine.events@coleggwent.ac.uk.

Mae ein harenâu dan do (54m X 30m) ac awyr agored (40m X 60m) pwrpasol ar gael i’w llogi gan grwpiau neu unigolion, yn cynnig arwynebau pob tywydd o’r radd flaenaf.

Mae gennym offer neidio Jump4Joy cwrs llawn ac ychydig o ffensys XC arena ar gael i’w llogi.

Yn ogystal â hynny, gallwch logi offer cystadlu drwy drefnu ymlaen llaw, yn amodol ar argaeledd.

Mae’r Ganolfan Geffylau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm.

Mae Digwyddiad yn cael ei ystyried yn fenter fasnachol pan fo cyfranogwyr yn talu ffi mynediad er mwyn cymryd rhan.

Llogi ar gyfer Digwyddiad Yr Awr (£) Diwrnod Llawn (£)
(Rhwng 08:00 – 18:00)
Arena Dan Do £35 £250
Arena Awyr Agored £30 £200
Arena Dan Do ac Arena Awyr Agored £60 £350
Cyfleusterau Ychwanegol
Y Dosbarth PRIS AR GAIS PRIS AR GAIS

Nodwch, bydd ffi glanhau o £25 yn cael ei chodi ar gyfer pob ardal os na fydd y cyfleusterau yn cael eu gadael mewn cyflwr rhesymol o lân a thaclus wedi ichi eu defnyddio.

Noder, mae’r sesiynau llogi canlynol yn amodol ar argaeledd.

Dydd Llun – Dydd Iau

Mae’r arenâu ar gael i’w llogi rhwng 4:30pm – 8pm, a rhaid gadael y safle’n llwyr erbyn 8:30pm.

Dydd Gwener

Mae’r arenâu ar gael i’w llogi rhwng 4:30pm – 5:30pm, a rhaid gadael y safle’n llwyr erbyn 6pm.

Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Mae’r arenâu ar gael i’w llogi rhwng 8am – 5pm ar gyfer sesiynau diwrnod llawn.

Y sesiwn hwyraf i’w llogi fesul awr neu hanner diwrnod yw rhwng 4pm – 5pm.

Rhaid gadael yr adeilad erbyn 5:30pm.

Gellir trefnu amseroedd y tu allan i'r uchod yn dilyn trafodaeth, fodd bynnag bydd costau ychwanegol yn codi.

Rhaid i bob ceffyl sy’n ymweld fod wedi’u brechu’n llwyr yn erbyn Ffliw Ceffylau a rhaid bod pasbortau ceffylau ar gael i’w harchwilio.

Digwyddiadau Marchogaeth Campws Brynbuga

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

White horse in a stable

Cyrsiau cysylltiedig