

Yn Eich Cefnogi Chi
Byddwn bob amser yn rhoi ein myfyrwyr yn gyntaf – ac mae hynny’n golygu ein bod yn rhoi pa bynnag gymorth sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y byddwch ei angen. Felly yn Coleg Gwent, mae ein rhwydwaith cefnogi yno ar gyfer popeth – o gymorth gyda’ch cwrs i’ch llesiant personol.

Dysgu ar-lein
Os ydych yn brin o amser, neu os yw teithio i’r campws yn anodd, gallai E-Ddysgu fod yn berffaith i chi! Mae Coleg Gwent wedi mynd i bartneriaeth ag arbenigwr E-ddysgu blaenllaw i ddarparu ystod eang o gyrsiau cyfrifiadurol, fel y gallwch astudio ar unrhyw adeg, yn unrhyw le.
Roeddwn yn mwynhau cael mwy o ryddid wrth astudio, a chael fy nhrin yn gyfartal gan y staff. Roedd y gwersi o hyd yn hwyliog ac yn ddiddorol… ac roedd y staff addysgu yn fy annog i fod yn hyderus yn fy ngallu. Roedd nifer o fy ffrindiau yn gwneud yr un pynciau Safon Uwch â mi, felly roedd yn gyfle inni weithio gyda’n gilydd a mwynhau astudio fel grŵp. Roedd cael fy nerbyn i Rydychen yn llwyddiant mawr imi… mae addysg Coleg Gwent wedi rhoi’r sail imi ar gyfer fy nghymwysterau academaidd sydd i ddod.

