Theatrau Perfformio

Theatrau Perfformio
Mae gennym, dair theatr berfformio fodern ym Mharth Dysgu Torfaen, Parth Dysgu Blaenau Gwent a Champws Crosskeys, sy’n aml yn cael eu defnyddio ar gyfer theatr gerddorol, drama a dawns wrth i’n myfyrwyr celfyddydau’r perfformio arddangos eu sgiliau actio, canu, y cyfryngau, cerddoriaeth ac amlgyfrwng, a defnyddio’r technolegau goleuo a sain ddiweddaraf.
Cadwch lygaid allan am y cynyrchiadau sydd ar y gweill ar ein tudalen digwyddiadau.
Llogi ein theatrau
Ein theatrau yw’r lle perffaith i gwmnïau theatr, ysgolion lleol a grwpiau dawns i berfformio sioe yn fyw, ac mae modd ichi eu llogi*, gyda llenni duon, llwyfannu a seddi symudol, yn ogystal â mynediad i ystafelloedd wisgo.
*Noder: mae ein cyfleusterau ar gyfer addysg ein dysgwyr yn gyntaf oll, felly er bod modd i chi eu llogi gall eu hargaeledd fod yn brin.




