En

Salonau Gwallt a Harddwch

Salonau Trin Gwallt a Harddwch Blŵm yn Coleg Gwent

Mae ein salonau sydd newydd eu hailfrandio a’u hadnewyddu bellach yn ôl ar agor!  P’un a ydych angen massage i gael gwared â thensiwn, eisiau steil gwallt newydd i’ch gweddnewid neu eisiau sbwylio’ch hyn gyda dewis o dros 30 o driniaethau harddwch, bydd ein steilyddion a therapyddion harddwch yn Blŵm Gwallt a Harddwch yn gwneud ichi deimlo ac edrych yn arbennig. 

Mae ein myfyrwyr Gwallt a Harddwch uchelgeisiol wedi ennill chwech medal yn ddiweddar yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, gyda 3 ohonynt yn aur! Felly gallwch fod yn sicr o gael gwasanaeth gwych, a dod i’r amlwg yn teimlo wedi’ch adfywio – am ffracsiwn o’r gost. 

Triniaethau

Mae triniaethau yn amrywio o gampws i gampws, ond dyma rhai o’r ffyrdd y gallwch sbwylio eich hun:

  • Torri a chwythsychu
  • Cyflyru trylwyr
  • Gwallt i fyny
  • Lliw parhaol a lled barhaol
  • Uwcholeuo/tanoleuo
  • Perm
  • Torri barf a steilio gwallt i ddynion
  • Meicro dermabrasiwn
  • Codi wyneb heb lawdriniaeth
  • Triniaeth wyneb trydanol
  • Triniaethau slimio/tonio
  • Chwistrellu lliw haul a thriniaethau aeliau a blew amrannau
  • Wacsio
  • Trin dwylo a thrin traed
  • Tynnu blew, Ewinedd Ffug
  • Mewnlenwi/cynnal a chadw
  • Adweitheg
  • Aromatherapi
  • Tylino pen Indiaidd
  • Tylino cefn
  • Tylino corff

Cynigion arbennig

O becynnau sbwylio Sul y Mamau i golur ar gyfer dathliadau, mae gan ein salonau cynigion arbennig a thymhorol yn rheolaidd.

Cysylltwch â’n salonau Blŵm Gwallt a Harddwch yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth.

Sut i wneud apwyntiad

Ar agor i’r cyhoedd, gall ein salonau gwallt a harddwch cael ei ddefnyddio gan bawb – felly beth am drefnu apwyntiad gyda ni heddiw?

I wneud apwyntiad, ffoniwch y salon yr hoffech ei fynychu. Mae’r rhifau cyswllt ar gyfer pob salon i’w gweld isod.

Dydd Llun 9.15yb  – 5yp

Dydd Mawrth 9.15yb – 5yp

Dydd Mercher 9.15yb – 5yp

Dydd Iau 9.15yb – 5pm

Dydd Gwener 10.15am – 4.30pm

Dydd Llun 9yb – 7yp

Dydd Mawrth 9yb – 7yp

Dydd Mercher 9yb – 7.30yp

Dydd Iau 9yb – 7.30yp

Dydd Gwener 10yb – 5yp

Dydd Llun 9.15yb – 6.30yp

Dydd Mawrth 9.15yb – 6.15yp

Dydd Mercher 9.15yb – 3.30yp

Dydd Iau 9.15yb – 1.30yp

Dydd Gwener 10.15yb – 3.30yp