En

Canolfan Achredu Technegydd Modurol (ATA)

ATA Accident Repair Centre

Enillwch y sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant atgyweirio ar ôl damweiniau gyda’n cyfleusterau o’r radd flaenaf

Mae Coleg Gwent yn cael ei hystyried yn un o brif ddarparwyr hyfforddiant ar gyfer y sector moduron yn ne Cymru, ac mae gan ein Canolfan ATA ar ein campws yng Nghasnewydd rhai o’r cyfleusterau gorau drwy’r wlad, gan gynnwys gweithdy cyrff cerbydau, ystafell paratoi, bwth chwistrellu a gweithdai peirianneg, yn ogystal â staff hynod o gymwys a phrofiadol i’ch helpu drwy’r broses asesu.

Os ydych yn dechnegwr cerbydau modur yn gweithio mewn sectorau fel cynnal a chadw beiciau modur neu gerbydau ysgafn, cymorth ymyl y ffordd, atgyweirio damweiniau, gwydro moduron, dosbarthu rhannau neu wasanaethau cwsmer, mae Achrediad Technegwyr Cerbydau Modur (ATA) yn fenter wirfoddol genedlaethol sydd wedi ei llywodraethu gan Sefydliad y Diwydiant Moduron (IMI) ac yn profi eich cymhwysedd drwy gyfres o asesiadau ymarferol a phrawf ar-lein mewn canolfan cymeradwy.

Rhowch hwb i’ch gyrfa yn y diwydiant modurol gydag un o’n Cyrsiau Atgyweirio Cerbydau Modurol ar ôl Damwain, neu hyrwyddwch eich CDP a chwrdd â’r deddfwriaethau cyfredol gyda’n cyrsiau arbenigol rhan amser Technegydd Cerbydau Archwiliad Cerbydau Ysgafn.