En

Digwyddiadau Agored

People at open events

DIGWYDDIAD AGORED NESAF

Dydd Mercher 15 Tachwedd
Archebu slot rhwng 5yp – 7.30yp
Darpariaeth gyflawn, Pob campws

Cofrestrwch nawr

Digwyddiadau Agored Coleg Gwent

Gall dewis y cwrs a’r llwybr gyrfa cywir fod yn dasg frawychus. P’un ai ydych yn edrych ar Lefelau A, cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau neu gyrsiau addysg uwch, mae gan Goleg Gwent rywbeth i bawb, a Digwyddiad Agored yw’r ffordd orau o ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod ai gael atebion i’ch cwestiynau llosg.

Cyn i chi ymweld, mae rhai pethau i’w hystyried, felly cymerwch olwg ar yr wybodaeth isod.

Beth sydd angen i chi ei wybod

Faint o’r gloch mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal?

Mae yna bum slot amser y gallwch gofrestru ar eu cyfer rhwng 5pm – 7.30pm. Cofiwch fydd staff dal yn ddysgu hyd at 4.30pm, felly ni fyddwch yn gallu cyrraedd cyn 5pm.

Mae sgyrsiau croeso wedi’u hamserlennu ar ddechrau pob slot amser i roi gwybodaeth i chi am eich ymweliad a chyfle i chi ddysgu am fywyd yng Coleg Gwent.

Cofrestru

Nid oes angen i deulu a ffrindiau sy’n ymweld â chi gofrestru, felly cofrestrwch dim ond os oes gennych ddiddordeb mewn astudio gyda ni. Os byddwch yn anghofio cofrestru – peidiwch â phoeni, gallwch dal i fynychu a chofrestru ar y diwrnod.

Dewis y campws cywir

Nid yw pob campws yn cynnig yr un cyrsiau, felly er mwyn osgoi siom, gwiriwch lle gallwch astudio’r cwrs o’ch dewis ac ymweld â’r campws perthnasol. Os nad ydych yn siŵr, gallwch hidlo fesul campws ar opsiwn chwilio cyrsiau isod.

 

BG
Parth Dysgu Blaenau Gwent
C
Campws Crosskeys
DC
Campws Dinas Casnewydd
T
Parth Dysgu Torfaen
B
Campws Brynbuga
Campus
Maes pwnc BG C DC T B
Lefel A    
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith  
Amaethyddiaeth a Gofal Anifeiliaid        
Prentisiaethau
Celf, Dylunio, Cyfryngau a Ffotograffiaeth  
Arlwyo a Lletygarwch        
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol  
Adeiladu      
Addysg  
Peirianneg a Modurol    
ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill)        
Trin Gwallt a Therapi Harddwch    
Iechyd, Gofal a Blynyddoedd Cynnar  
Sgiliau Byw’n Annibynnol  
Cerddoriaeth, Drama a Dawns      
Llwybr at Radd (Mynediad i Addysg Awch)
Gwasanaethau Cyhoeddus    
Gwyddoniaeth    
Chwaraeon