Gyrfaoedd a Dilyniant

CG Ambitions staff

P'un a ydych chi'n ystyried mynd i'r brifysgol, cael swydd, ymgymryd â phrentisiaeth, parhau â'ch astudiaethau neu ddechrau eich busnes eich hun, mae tîm Uchelgeisiau CG wrth law i roi cymorth i ddysgwyr Coleg Gwent ar eu camau nesaf.

Gall ein tîm eich helpu chi i archwilio eich opsiynau, gwella eich sgiliau cyflogadwyedd, a gwneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol. Gallwn eich cefnogi chi gyda cheisiadau UCAS ac ar gyfer y brifysgol, prentisiaethau, cynllunio gyrfa, ysgrifennu eich CV, ceisiadau, cyfweliadau a llawer mwy.

Staff smiling

Cefnogi dysgwyr gyda'u camau nesaf

Mae ein Hyfforddwyr Dilyniant yn cefnogi dysgwyr Coleg Gwent gyda'u cynlluniau am fywyd ar ôl y coleg. Mae modd iddynt helpu dysgwyr i archwilio eu hopsiynau, gwneud penderfyniadau o ran eu camau nesaf a'u cefnogi drwy'r broses ymgeisio ar gyfer y brifysgol, prentisiaethau a llwybrau dilyniant eraill.

Parth Dysgu Blaenau Gwent a'r ganolfan HiVE

Hannah Cadman
Hyfforddwr Dilyniant
hannah.cadman@coleggwent.ac.uk

Crosskeys

Hayley Jenkins-Davies
Hyfforddwr Dilyniant
hayley.jenkins-davies@coleggwent.ac.uk

Casnewydd

Rhian Rees
Hyfforddwr Dilyniant
rhian.rees@coleggwent.ac.uk

Parth Dysgu Torfaen

Sally Parkinson-Cribb
Hyfforddwr Dilyniant, Safon Uwch
sally.parkinson-cribb@coleggwent.ac.uk

Hannah Kenny
Hyfforddwr Dilyniant, Astudiaethau Galwedigaethol
hannah.kenny@coleggwent.ac.uk

Brynbuga

Danielle Hubbard
Hyfforddwr Dilyniant
Danielle.hubbard@coleggwent.ac.uk

Mae ein Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cysylltu dysgwyr Coleg Gwent â chyflogwyr a'r diwydiant, gan eich helpu i gael profiad byd-go-iawn, mireinio eich sgiliau a darganfod gwahanol gyfleoedd o ran gyrfaoedd. Drwy gynnal sgyrsiau gyda chyflogwyr, ymweliadau diwydiannol, profiad gwaith, lleoliadau gwaith, prosiectau dan arweiniad cyflogwyr, a chyfleoedd o ran rhwydweithio a recriwtio, rydym yn helpu dysgwyr i gysylltu â chyflogwyr a dysgu beth mae gweithio mewn gwahanol ddiwydiannau wir yn ei olygu.

Hannah Boyce
Ymgynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr
hannah.boyce@coleggwent.ac.uk

A oes gennych chi syniad am fusnes, sgìl y gallech ei droi yn fusnes, dyhead i ddechrau eich busnes eich hun, neu hyd yn oed syniad am ffordd o wella eich cymuned leol? Yna gall ein Hyrwyddwr Menter eich helpu chi i archwilio eich syniad, magu eich sgiliau entrepreneuraidd a dod i ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch i ddechrau a thyfu busnes.

Zoë Binning
Hyrwyddwr Menter
zoe.binning@coleggwent.ac.uk

Dysgwch ragor am effaith ein gwaith Menter yn ein Hadroddiad Effaith Flynyddol yma:

Lawrlwytho’r adroddiad 2025-2026

Os nad ydych chi'n siŵr o ran pwy i siarad ag ef, gallwch gysylltu ag Abigail Collins, Rheolwr Ymgysylltu a Chynnydd Cyflogwyra fydd yn gallu eich rhoi chi ar y trywydd cywir.

Abigail Collins
Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr a Chynnydd
Abigail.collins@coleggwent.ac.uk

CG Ambitions team smiling

Cymorth Gyrfaol Ar-lein

Ansicr ynglŷn â pha yrfa fyddai’n gweddu orau i chi? Neu’n cael trafferth gwybod pa gwrs i’w ddilyn i’ch helpu i gael swydd eich breuddwydion? Gall Coleg Gwent helpu!

Gwnewch ein Cwis Paru Gyrfa i sefydlu eich math o bersonoliaeth a chael argymhellion personol ar gyfer swyddi, pynciau i’w hastudio a hyd yn oed cynghorion i’ch helpu i weithio’n well.

Neu edrychwch ar ein teclyn Llwybrau Gyrfa sy’n rhoi llawer o wybodaeth ar y gwahanol swyddi sydd ar gael i chi a gwybodaeth ynglŷn â’r pynciau gorau i’w dewis i’ch helpu i gyrraedd yno.

Hidden section title