English Ymgeisiwch Nawr

Barod am newid?

Os ydych chi am ennill cymwysterau i newid eich gyrfa, symud ymlaen yn eich rôl bresennol neu eisiau dysgu hobi neu sgil newydd, yna mae’r ystod o gyrsiau hyblyg a rhad ac am ddim a gynigir gan Coleg Gwent ar eich cyfer chi.

Gweler Cyrsiau

Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu

Ni ddylai astudio fod yn anhygyrch

Fel dysgwyr oedolion, rydym yn deall bod heriau a all wneud i ddychwelyd i astudio deimlo'n llethol.

Boed yn ddiffyg amser, cyfyngiadau ariannol, anawsterau gofal plant neu nerfusrwydd – rydym yn deall ac rydym yma i'ch cefnogi chi.

Hyblyg

Cyflwynir ein cyrsiau drwy gydol y dydd ac maent yn dechrau ar adegau amrywiol yn ystod y flwyddyn - gan ei gwneud hi'n bosib i chi astudio pan fydd yn gyfleus i chi. A chyda phum campws lleol, gallwch astudio'n agos at adref ar amser sy'n gyfleus i chi heb roi'r gorau i'r hyn sy'n bwysig i chi.

DARGANFOD MWY

Cymorth ariannol

Mae llawer o’n cyrsiau am ddim, sy’n golygu y gallwch ddysgu, cymhwyso a symud ymlaen yn eich gyrfa am ddim. Os oes costau cysylltiedig â’ch dewis o gwrs, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol.

DARGANFOD MWY

Cymorth

Gall dychwelyd i'r coleg fel oedolyn fod yn frawychus, ond mae hefyd yn rhoi boddhad mawr. Gall ein tîm cymorth arbenigol eich helpu i ddilyn eich angerdd a gyda llwybrau dilyniant clir, byddwn yn eich helpu i gynllunio sut i gyflawni eich nodau.

DARGANFOD MWY

Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu yn Coleg Gwent.

Sut i wneud cais

Nid oedd hi’n rhy hwyr i Katy

Roeddwn i’n nerfus am ddychwelyd i addysg wedi seibiant, ond rydw i wedi cael rhagoriaeth yn fy ngwaith bob tro hyd yma. Mae Coleg Gwent yn goleg braf efo cyfleusterau da ac yn rhoi’r cyfle i mi astudio efo pobl sydd eisiau cyrraedd yr un lle â mi.

Katy Price
Mynediad i Nyrsio
Katy Price

Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu yn Coleg Gwent