En

Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar Coleg Gwent

Rydyn ni wedi trio ein gorau i sicrhau bod y safle hwn yn hygyrch i bawb. Rydyn ni wedi ceisio sicrhau bod y safle hwn yn cadw at ganllawiau WCAG 2.1 AA.

Cafodd y safle hwn ei adeiladu gan ddefnyddio priodweddau diweddaraf CSS a’r arwyddnodi HTML5 semantig sydd ar gael ar borwyr modern y we er mwyn sicrhau’r hygyrchedd gorau.

Coleg Gwent sy’n rhedeg y wefan hon. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hyn y dylech chi fod yn gallu:

  • newid lliwiau; lefelau cyferbynnedd a’r ffontiau
  • chwyddo’r testun hyd at 200% heb fod y testun yn diflannu o’r sgrin
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar ran fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan ddefnyddio fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Bydd rhai rhannu o’r safle gyda lawrlwythiadau PDF
  • Bydd rhai delweddau gyda’r un dolenni a’r cynnwys sydd yn uniongyrchol odditanynt.
  • Gall y cyferbyniadau lliw fod yn anoddach iw ddarllen ar rai cefndiroedd.

Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon

Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Efallai y bydd y cyferbyniad rhwng rhai lliwiau brand yn anoddach i rai defnyddwyr i’w ddarllen heb osod offeryn i addasu’r cyferbynnedd yn eu porwr yn gyntaf.

Mae adodiadau PDF wedi eu defnyddio ar gyfer rhai dogfennau termau a chyrsiau rhyngwladol.

Anghydffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  • Mae materion cyfarbyniadau ym dal i fodoli ar y safle
  • Gellir cywiro hyn yn eich porwr eich hun trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a geir ar abilitynet.org.uk

Cynnwys sydd heb fod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Problemau â PDFs a dogfennau eraill

Nid yw nifer o’n hen ddogfennau PDF yn cwrdd â safonau hygyrchedd – er enghraifft, efallai nad ydynt wedi eu marcio i fod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn mynnu ein bod yn trwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd y byddwn ni’n eu cyhoeddi’n cwrdd â safonau hygyrchedd.

Sut aethom ati i brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan brawf y tro diwethaf ar 30 Hydref 2023.

Defnyddion ni:

Gwnaethom brofi’r canlynol:

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Tachwedd 2019. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 30 Hydref 2023.