Astudio

P’un a ydych yn syth o’r ysgol, yn meddwl ail lunio’ch gyrfa, neu’n gweithio tuag at gymhwyster lefel prifysgol, mae’ch dyfodol yn eich dwylo chi. Yn Coleg Gwent, rydym yn rhoi mwy o ddewis nag erioed i chi lywio’ch ffordd eich hun.
Ond pan ydym yn trafod dewisiadau, nid dewis cwrs yn unig yr ydym yn ei drafod.
Dod o hyd i’r cwrs iawn i chi
Gyda chymaint o ddewis, y rhan anoddaf yw penderfynu lle i ddechrau. Edrychwch ar ein hystod o gyrsiau llawn amser, rhan amser ac addysg uwch, a chymerwch y cam cyntaf tuag at ddyfodol a luniwyd gennych chi.
Mwy o ddewis, mwy o gyfle
Mae addysg yn ymwneud ag agor drysau - i brofiadau newydd, gwell gyrfaoedd, ac uchelgeisiau mwy. Pan ydych yn dewis dysgu, rydych yn dewis mwy na phwnc; rydych yn dewis newid eich bywyd.
- Mwy o ddewis o ran yr hyn y gallwch gael mynediad ato - Gall cymhwyster arwain at ennill cyflog uwch, a datgloi cyfleoedd mewn bywyd.
- Mwy o ddewis o ran yr hyn y gallwch ei wneud fel bywoliaeth - Gall dysgu sgiliau newydd fel datrys problemau a rheoli amser arwain at lwybrau gyrfa newydd.
- Mwy o ddewis o ran yr hyn y gallwch ei brofi - Gall cwrdd â phobl newydd a darganfod diddordebau newydd ehangu’ch gorwelion.
- Mwy o ddewis o ran yr hyn yr ystyriwch y gallwch ei gyflawni - Mae buddsoddi ynoch eich hun yn magu hyder, gan eich helpu i anelu’n uwch nag erioed o’r blaen.
Yr ystod ehangaf o opsiynau astudio yng Nghymru
Os ydych yn chwilio am addysg bellach yn Ne Cymru, rydym yn cynnig mwy o gyrsiau coleg, ac opsiynau astudio nag unrhyw le arall yng Nghymru, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddysgu mewn modd sy’n addas ar eich cyfer.