Campws Crosskeys

crosskeys campus in sunshine

Mae gan gampws mwyaf Coleg Gwent gysylltiadau cadarn gydag ysgolion a busnesau lleol sy’n ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer myfyrwyr yn ardal Caerffili a thu hwnt.

Mae’n cynnig dros 30 pwnc Safon Uwch, yn ogystal â chymwysterau gradd ac amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol.

Mae llawer o’n myfyrwyr Safon Uwch yn cyflawni graddau arbennig ac yn mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion gorau’r DU. Os ydych eisiau hyfforddiant ar gyfer gyrfa alwedigaethol, byddwch yn dod o hyd i rai o’r cyfleusterau gorau yma. Mae hyn yn cynnwys offer safon ddiwydiannol ar gyfer ein cyrsiau gweithgynhyrchu uwch, Hwb Addysg Uwch ar gyfer y rheiny sy’n astudio cymwysterau lefel gradd a Chanolfan Ddysgu wedi ei chyfarparu ag ystafell mac, llyfrau, a mynediad at gyfnodolion ar -lein.

Mae Crosskeys hefyd yn gartref i Academi Rygbi Ieuenctid y Dreigiau, fel bod myfyrwyr yn gallu datblygu eu sgiliau rygbi cyfochr â’u cwrs!

Lle mae dod o hyd i ni

location_on Coleg Gwent
Campws Crosskeys
Heol Risca
Campws Crosskeys
Caerffili
NP11 7ZA

Barod i ymuno â ni ar Gampws Crosskeys

Archwilio ein cyrsiau