Canolfan Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE)

HiVE exterior in the sunshine

Campws Peirianneg Gwerth Uchel Newydd

Dyfodol arloesedd a thechnoleg o’r radd flaenaf

Ein campws a adeiladwyd yn bwrpasol sy’n werth aml-filiynau o bunnoedd wedi’i ddylunio ar gyfer darpar beirianwyr. Cewch hyfforddiant ac addysg ymarferol ym meysydd roboteg, awyrofod, chwaraeon moduro, deunyddiau uwch a gweithgynhyrchu gan ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf.

Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru a Chymoedd Technoleg, mae HiVE wrth galon Glyn Ebwy, yn agos i Barth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd y cyfleuster newydd yn rhoi’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i bobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau yn y dyfodol.

Engineering student working with a robotic arm

Sgiliau ar gyfer eich dyfodol

Datblygu sgiliau peirianneg

O roboteg a gweithgynhyrchu haen-ar-haen i seiberddiogelwch a realiti estynedig, bydd dysgwyr wrth galon technoleg o’r radd flaenaf.

Dyfodol peirianneg

Bydd y cyfleuster addysg sy’n hollol ddigidol yn cynnig cwricwlwm a arweinir gan arbenigwyr diwydiant gan gynnig cyrsiau newydd a chyrsiau presennol o lefel TGAU i lefel radd.

Cyfleoedd I gyflogwyr

Mae HiVE ar agor i gyflogwyr ddatblygu sgiliau STEM yn y gymuned gan sicrhau gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau i fodloni gofynion technoleg sy’n esblygu’n gyflym.

Lle mae dod o hyd i ni

location_on HiVE
Coleg Gwent
Heol Letchworth
Glynebwy
Blaenau Gwent
NP23 6FS

Barod i ymuno â ni yn HiVE?

Archwilio ein cyrsiau