Ymadawyr Ysgol
Mae gadael yr ysgol yn gam mawr a cyffrous, ac rydym ni yma i'ch cefnogi chi ar bob cam o'r ffordd. Gyda channoedd o gyrsiau llawnamser ar gyfer ymadawyr ysgol ar draws pum campws lleol, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth sy'n cyd-fynd â'ch nodau a'ch angerdd.
P'un a yw’n gwrs Lefel A megis Cerddoriaeth neu TGCh, prentisiaeth mewn crefft megis gwaith coed neu blymio neu gwrs galwedigaethol mewn Peirianneg neu Gelf, mae gennym ni rywbeth at eich dant. Ac os nad ydych chi'n sicr, mae hynny'n iawn hefyd. Cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i'ch angerdd.
Sut i ddod o hyd i'r cwrs delfrydol
Barod i archwilio eich opsiynau? Porwch drwy ein meysydd pwnc i ddarganfod y cwrs sy'n berffaith i chi. Mae pob tudalen gwrs yn darparu gwybodaeth fanwl, gan gynnwys y campws lle mae’r cwrs yn cael ei gynnig. Mae'n werth nodi bod rhai cyrsiau dim ond ar gael ar gampysau penodol, felly gwiriwch y manylion i sicrhau fod y cwrs rydych chi am ei ddilyn ar gael ar safle sy'n addas i chi.
Ddim yn siŵr beth i'w astudio? Bydd ein teclyn Llwybrau Gyrfa yn eich helpu chi i ystyried eich opsiynau a darganfod pa gymwysterau sydd eu hangen arnoch i gyflawni eich nodau. Gallwch hefyd weld gwybodaeth ddefnyddiol fel cyflogau ac argaeledd rolau.
Dewis cwrs
Beth bynnag y llwybr o’ch dewis, byddwch yn elwa o diwtoriaid arobryn, cyfleusterau safon diwydiant ac amgylchedd dysgu cefnogol i chi allu teimlo'n gartrefol cyn hir.
Golwg ar brofiadau ymadawyr ysgol
Oriel
Ymgeisiwch heddiw a dechreuwch ar eich taith
Does dim amser gwell na'r presennol i gymryd y cam cyntaf tuag at eich dyfodol. Mae ymgeisio'n hawdd – unwaith eich bod wedi dod o hyd i'r cwrs iawn, llenwch y ffurflen gais ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu gyngor arnoch, gall ein tîm cyfeillgar eich tywys drwy'r broses. Gallwch fynychu un o'n digwyddiadau agored i ddysgu rhagor am fywyd yn Coleg Gwent.
P'un a ydych chi'n breuddwydio am lwyddiant academaidd, gyrfa yn y maes creadigol neu ddysgu sgiliau ymarferol ar gyfer y gweithle, mae gan Coleg Gwent y dewis mwyaf o gyrsiau yng Nghymru ac rydym ni yma i'ch helpu chi ar bob cam o'r ffordd. Felly gwnewch Coleg Gwent eich coleg o ddewis a chymryd y cam nesaf tuag at gyflawni eich amcanion.