Lefelau A

Beth am lywio eich dyfodol gyda chymwysterau Safon Uwch yn Coleg Gwent

Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, mae cymwysterau Safon Uwch yn ffordd wych o’u cyflawni. Mae prifysgolion yn ymddiried ynddynt, maent yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, ac yn agor drysau i gyfleoedd di-rif.

Os ydych yn barod i archwilio’r hyn yr ydych yn ei garu, darganfod yr hyn a allwch ei gyflawni, a chymryd y camau cyntaf tuag at eich gyrfa ddelfrydol, byddwch yn gartrefol yma.

Pam dewis Coleg Gwent ar gyfer eich taith am gymwysterau Safon Uwch?

Yng ngholeg Gwent, rydych mewn cwmni da. Gyda chyfradd lwyddo o 98.2% yn 2025 a hanes ardderchog o fyfyrwyr yn mynd yn eu blaenau i’r prifysgolion mwyaf blaenllaw, cewch gefnogaeth i gyrraedd eich llawn botensial.

Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymwysterau Safon Uwch mewn amgylchedd cynhwysol, croesawus a gynlluniwyd i’ch cynorthwyo i lwyddo.

  • Dros 30 o bynciau cymhwyster Safon Uwch i ddewis ohonynt, wedi eu grwpio i lwybrau gyrfa defnyddiol
  • Tiwtoriaid arbenigol a chefnogaeth gyfeillgar bob cam o’r daith
  • Opsiynau astudio’n hyblyg ledled ein Parth Dysgu Blaenau Gwent, Campws Crosskeys, a Pharth Dysgu Torfaen
  • Mynediad at Rwydwaith Seren i ddysgwyr sydd â’u bryd ar brifysgolion Grŵp Russell
https://bloom-digital.s3.eu-west-2.amazonaws.com/coleg-gwent/wp-content/uploads/2025/07/14140952/A-Levelfeature-video-desktop.jpg

Archwiliwch yr hyn yr ydych yn ei garu

Felly, sawl cymhwyster Safon Uwch allwch chi eu cymryd?

Mae’r mwyafrif o ddysgwyr yn dewis tri neu bedwar, gan roi’r rhyddid iddynt i deilwra eu hastudiaethau i’w diddordebau a’u nodau. Byddwn yn eich arwain i wneud y dewisiadau cywir i chi - p’un a oes gennych yrfa mewn golwg, neu eich bod dal i bendroni. Mae pob pwnc yn rhoi’r cyfle i chi archwilio’ch diddordebau ymhellach. O’r gwyddorau a mathemateg i’r celfyddydau creadigol a’r dyniaethau, mae ein cyrsiau cymhwyster Safon Uwch yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth, hyder, a sgiliau a erys gyda chi am byth.

Bydd ein hofferyn llwybrau cymhwyster Safon Uwch yn ei gwneud yn haws i gyfateb eich pynciau â’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gyda chyngor arbenigol wrth law pan fyddwch ei angen.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Meddyliwch am:

  • Beth ydych yn mwynhau ei astudio
  • Yr hyn yr hoffech ei wneud yn y brifysgol
  • Pa fath o yrfa sy’n eich cynhyrfu

I ble y gallwch fynd gyda chymwysterau Safon Uwch?

Mae cymwysterau Safon Uwch yn garreg gamu bwerus. Maent yn addas iawn os ydych â’ch bryd ar y brifysgol, ond maent hefyd yn agor drysau i brentisiaethau a mynediad uniongyrchol i’r gweithle. Beth bynnag fo’ch taith, bydd eich amser yma gyda ni yn eich cynorthwyo i adeiladu’r sylfeini sydd eu hangen arnoch i gymryd y cam nesaf yn hyderus.

Eich dewis chi o astudio

Mae cyrsiau cymhwyster Safon Uwch yn Coleg Gwent yn rhai llawn amser sy’n cymryd dwy flynedd i’w cwblhau. Ar ddiwedd eich blwyddyn gyntaf byddwch yn ennill cymhwyster Uwch Gyfrannol a’r cymhwyster Safon Uwch llawn ar ddiwedd yr ail flwyddyn. Drwy gydol eich cwrs, cewch gefnogaeth i gadw ar y trywydd cywir, archwilio eich opsiynau, a chyflawni eich nodau.

Mae'r gefnogaeth gan diwtoriaid a staff wedi bod yn enfawr. Rwyf wedi cwrdd â phobl wych yn Coleg Gwent ac wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd

Aled

Barod i astudio am gymwysterau Safon Uwch?

Archwiliwch ein llwybrau a’n pynciau cymhwyster Safon Uwch, neu siaradwch â’n tîm recriwtio myfyrwyr er mwyn dechrau llywio eich dyfodol heddiw.

Gyrsiau Safon Uwch

Hidlyddion

Sort by

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your fee range:

Choose your start date: