Mathemateg a Saesneg

Dyma le i chi ddechrau o’r newyd
P'un a ydych chi am fynd i'r brifysgol, ennill eich swydd ddelfrydol neu deimlo'n fwy hyderus ym mywyd bob dydd, gall sgiliau mathemateg a Saesneg cryf eich tywys yn bell.
Os na wnaethoch ennill Gradd C neu'n uwch mewn TGAU Mathemateg neu Saesneg, peidiwch â phoeni. Yn Coleg Gwent, byddwn yn eich helpu i wella eich sgiliau ac ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch, ochr yn ochr â'ch prif gwrs.
Pam mae hyn yn bwysig
Gall gwella eich mathemateg a Saesneg eich helpu drwy::
- Ddyrchafu eich rhagolygon swydd
- Cyfleu cyfleoedd newydd ar gyfer eich gyrfa ac astudiaethau
- Meithrin eich hyder
- O bosib, ennill mwy yn y pen draw
Yr hyn y byddwch yn ei astudio
Gan ddibynnu ar eich canlyniadau yn y gorffennol, cewch eich gosod ar y lefel sy'n addas i chi. Gallai hon gynnwys:
- Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
- Lefel 3 Dysgu Uwch
- Ailsefyll TGAU Saesneg Iaith neu Fathemateg
- Sgiliau Hanfodol Cymru: Cymhwyso Rhif a/neu Gyfathrebu
Yr hyn a edrychwn arno
sydd mwyaf addas i chi.
Dyma ganllaw sydyn:
Gradd C neu'n uwch? Byddwch yn dilyn Sgiliau Uwch neu Dysgu Uwch
Gradd D? Byddwch yn ailsefyll eich TGAU neu'n dilyn Sgiliau Hanfodol
Gradd E neu'n is? Byddwch yn meithrin eich sgiliau drwy Sgiliau Hanfodol ar Lefel 1 neu Lefel Mynediad
Saesneg fel ail iaith? Byddwch yn sefyll asesiad i ddod o hyd i'r lefel sydd mwyaf addas i chi
Addysg gartref neu’n 19+ oed? Bydd angen i chi sefyll arholiad mynediad cyn dechrau dilyn cwrs TGAU

Dyma pam fod Mathemateg a Saesneg mor bwysig
Mathemateg | Saesneg | |
---|---|---|
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir | Sicrhau nad ydych yn tanfwydo neu’n gorfwydo anifeiliaid | Deall gwybodaeth am driniaethau i anifeiliaid |
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth | I fesur ffabrigau ym maes dylunio ffasiwn i sicrhau bod dillad yn ffitio | I gyflwyno eich gwaith yn llwyddiannus i gleientiaid |
Moduro | Darparu amcangyfrifon cost cywir ar gyfer atgyweiriadau neu wasanaethau cynnal a chadw | Cyfathrebu â chwsmeriaid i esbonio materion technegol ac opsiynau atgyweirio |
Busnes a Chyfrifeg | I wneud yn siŵr nad ydych yn gwario mwy na’ch cyllideb | I gyfathrebu’n effeithiol â staff a thrafod gyda chleientiaid |
Arlwyo a Lletygarwch | I gyfrifo cynhwysion rysáit a gweithio allan pa mor hir y mae angen i chi ei goginio | I ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol a chael archebion yn gywir |
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol | Rhoi fformiwlâu mewn taenlenni | Cofnodi data pwysig yn gywir |
Adeiladu | Defnyddio ffracsiynau i roi cymalau yn eu lle gyda’r un pellter rhyngddynt ar hyd wal stydiau | I ddarparu dyfynbrisiau cywir a phroffesiynol i ddarpar gleientiaid |
Peirianneg | Mesur deunyddiau ac onglau i sicrhau bod dyluniadau yn cael eu gwneud yn gywir | Deall rheoliadau iechyd a diogelwch i wneud yn siŵr bod mannau gweithio yn ddiogel |
Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol | Gweithio allan y cymarebau cywir ar gyfer lliwio gwallt neu arlliwio aeliau | Cyfathrebu â chleientiaid a threfnu apwyntiadau |
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant | Gwneud yn siŵr eich bod yn sicrhau’r gymhareb gywir ar gyfer y nifer o blant neu gleifion i ofalwyr, gan helpu pawb i gadw’n ddiogel | Rheoli cofnodion cleifion neu gleientiaid |
Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio | I gyfrifo amseroedd llwyfan | Dysgu sgriptiau ar gyfer clyweliadau |
Gwasanaethau Cyhoeddus | Cyfrifo cyflymder cerbydau sy’n rhan o ddamweiniau trwy ddefnyddio marciau sgidio, pellteroedd a mesuriadau eraill | Llunio adroddiadau gan roi manylion am ddigwyddiadau ac ymchwiliadau |
Gwyddoniaeth | I ddadansoddi data yn gywir | I gadw cofnodion cywir o brosiectau ac i ysgrifennu adroddiadau |
Chwaraeon a Ffitrwydd | Cyfrifo sgoriau a faint o bwyntiau sydd eu hangen arnoch i ennill | Cyfathrebu ag aelodau tîm a chytuno ar dactegau |
Teithio a Thwristiaeth | Cyfrifo cyfraddau cyfenwid arian i daro’r fargen orau | Cymchwilio i gyrchfannau i roi cyngor i gleientiaid |