Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio

Dewch i serennu

Os ydych yn teimlo’n gartrefol ar y llwyfan, tu ôl i’r meic, neu yn yr ystafell ymarfer, rydych yn y man cywir.

P’un a ydych yn breuddwydio am yrfa mewn actio, cynhyrchu, ysgrifennu caneuon, neu berfformio, gall ein cyrsiau cerddoriaeth, drama a’r celfyddydau perfformio eich helpu i droi’ch angerdd yn rhywbeth pwerus.

Mae Cymru yn llawn creadigrwydd - yn gartref i gynyrchiadau, gwyliau a sêr newydd o’r radd flaenaf. Yn Coleg Gwent, mae modd i chi fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf ddawnus sy’n llywio’r diwydiannau creadigol.

Cewch hyfforddi mewn mannau proffesiynol, gydag arweiniad arbenigol

P’un a ydych yn berfformiwr, cynhyrchydd, neu’n bwriadu gweithio tu ôl i’r llenni, cewch brofiadau ymarferol a fydd yn cynyddu’ch sgiliau a’ch hyder.

Bydd tiwtoriaid profiadol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn eich dysgu mewn mannau sy’n addas ar gyfer creadigrwydd, gan gynnwys:

  • Stiwdios cerdd llawn offer
  • Stiwdios recordio proffesiynol
  • Theatrau perfformio pwrpasol
  • Stiwdios dawns proffesiynol
Cyrsiau cerddoriaeth

Mae ein cyrsiau yn rhoi cyfle i chi ysgrifennu caneuon, perfformio, a chynhyrchu cerddoriaeth tra’n eich helpu i ddatblygu’ch dawn ac ehangu’ch dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth. Byddwch yn gweithio gyda cherddorion angerddol eraill ac yn datblygu sgiliau mewn:

  • Ysgrifennu caneuon a chyfansoddiad
  • Recordio mewn stiwdio a pheirianneg sain
  • Prosiectau cydweithredol a pherfformiadau byw
O greu eich cerddoriaeth eich hun i gymysgu a meistroli traciau, byddwch yn cael y profiad i lansio’ch gyrfa gerddorol.

Cyrsiau drama

Beth am ddarganfod sut i ddod â chymeriadau’n fyw a dweud straeon pwerus drwy leferydd, symudiad, ac emosiwn. Byddwch yn datblygu technegau actio, presenoldeb ar lwyfan, a hyder o flaen cynulleidfa - ac ar gamera. Mae ein cyrsiau drama yn eich paratoi ar gyfer gweithio mewn:

  • Theatr, ffilm, a’r teledu
  • Cyflwyno a chyfarwyddo
  • Gwaith llais a pherfformiad clywedol

Theatr dawns a cherdd

Os ydych wrth eich bodd yn symud, canu, neu’n coreograffu, mae ein cyrsiau theatr dawns a cherdd yn cyfuno hyfforddiant technegol gyda pherfformiad creadigol. Byddwch yn datblygu’ch dawn mewn:

  • Coreograffi a thechnegau dawns
  • Hyfforddiant lleisiol a symudiad
  • Crefft llwyfan a chynhyrchu
Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i yrfaoedd yn y celfyddydau perfformio, cynhyrchu, y cyfryngau, a mwy - ar y llwyfan a thu ôl i’r llenni.

https://bloom-digital.s3.eu-west-2.amazonaws.com/coleg-gwent/wp-content/uploads/2025/07/16103843/Music-and-Performing-Arts-feature-video-desktop.jpg

I ble fydd cerddoriaeth a'r celfyddydau perfformio yn eich arwain?

Mae ein cyrsiau cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio yn cynnig cyfle i chi wneud gyrfa allan o'ch creadigrwydd a'ch angerdd. P'un a ydych wrth eich bodd ar y llwyfan, y tu ôl i'r llenni neu yn y stiwdio, mae byd o gyfleoedd yn aros amdanoch chi.

Mae cymhwyster mewn cerddoriaeth a'r celfyddydau perfformio yn arwain at ystod o yrfaoedd cyffrous, gan gynnwys:

  • Cerddor
  • Actor
  • Dawnsiwr
  • Cynhyrchydd cerddoriaeth
  • Technegydd sain
  • Rheolwr llwyfan
  • Cyfarwyddwr theatr
  • Coreograffydd
  • Cyfansoddwr
  • Athro drama

Mae astudio'r Celfyddydau Perfformio yn Coleg Gwent wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae'r hyfforddiant ymarferol, o ddawns i waith llais, a'r cyfleusterau gwych fel y theatr a'r stiwdios dawns wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau. Gwnaeth yr awyrgylch gefnogol a chyfeillgar bob gwahaniaeth — nawr rwy'n mynd i ysgol ddrama yn Llundain i gymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa.

Alys - Celfyddydau Perfformio
Performing Arts students in dance studio

Dechreuwch eich taith greadigol heddiw

Ble bynnag mae’ch angerdd - cerddoriaeth, drama, dawns, neu gynhyrchu - cewch hyd i’r cwrs, y gefnogaeth, a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch yn Coleg Gwent.

Edrychwch ar ein cyrsiau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio llawn amser, rhan amser ac addysg uwch heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at eich gyrfa ddelfrydol.

Cyrsiau

Hidlyddion

Sort by

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your fee range:

Choose your start date: