Eich Prosbectws Digidol

Looking at Prospectus Plus

Gwnewch y dewis cywir ar gyfer eich dyfodol gyda'ch canllaw cwrs ar-lein

Mae dewis y coleg cywir yn benderfyniad pwysig, ac yma yn Coleg Gwent, rydym yma i wneud pethau’n haws i chi. Eich prosbectws digidol wedi’i gynllunio i ddarparu’r holl wybodaeth hanfodol am ein cyrsiau, campysau, a chyfleoedd, er mwyn i chi wneud y dewis cywir ar gyfer eich dyfodol chi.

Gyda'ch prosbectws digidol, gallwch:

  • Personoli eich profiad: Addasu’r cynnwys i weddu i’ch diddordebau penodol, o gyrsiau, cymorth a bywyd coleg.
  • Mynediad unrhyw bryd, unrhyw le: Mae eich prosbectws digidol ar gael ar unrhyw ddyfais, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.
  • Aros yn gyfredol: Mwynhewch yr wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau a diweddariadau mewn amser real.
  • Arbed eich dewisiadau: Creu cyfrif a mewngofnodi unrhyw bryd a rhannu gyda theulu a ffrindiau.
Students walking outside Torfaen Learning Zone

Dechreuwch eich taith gyda ni

Archwiliwch gyrsiau, cymorth a bywyd coleg gyda’ch prosbectws digidol!

First year students walking outside Crosskeys in the sun

Pam digidol?

Llai o effaith a llai o wastraff. Oeddech chi’n gwybod bod y DU yn cynhyrchu 12.1 miliwn tunnell o wastraff papur bob blwyddyn?* Wel, rydyn ni’n gwneud ein rhan i newid hynny! Rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o dorri’n ôl ar y deunyddiau printiedig a ddefnyddiwn yn unol â’n targed o allyriadau sero net erbyn 2030.

* Cyfeirnod https://www.gov.uk/government/statistics/uk-waste-data/uk-statistics-on-waste

Staff member

Angen mwy o gymorth?

Gallwch gysylltu â’n tîm cyfeillgar recriwtio myfyrwyr sydd ar gael i helpu drwy sgwrs we, ffonio 01495 333 777 neu anfon e-bost at helo@coleggwent.ac.uk.