En

Dysgwyr

Learner using mobile phone

Gosod yr app CG Connect (Myfyrwyr cyfredol):

Cwestiynau Cyffredin Mewngofnodi

Wrth wneud cais am eich cwrs, byddwch wedi creu cyfrif gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost personol a chyfrinair o’ch dewis. Ar ôl i chi gael cynnig cwrs, caiff eich cyfrif ei drosglwyddo i gyfrif Coleg Gwent gydag enw defnyddiwr a chyfrinair newydd. Dyma’r un manylion sydd eu hangen i fynd ar CG Connect, MS Office 365 a chyfrifiaduron ac argraffwyr y coleg.

Eich enw defnyddiwr yw’ch rhif adnabod coleg ac yna @coleggwent.ac.uk. Mae’ch rhif adnabod coleg yn rif 8 digid ac mae i’w gael ar eich holl ohebiaeth cais.

Bydd eich enw defnyddiwr yn debyg i hyn – 12345678@coleggwent.ac.uk

Bydd eich cyfrinair wedi’i anfon i’ch cyfeiriad e-bost personol.

Ar ôl i chi fewngofnodi, dylech newid eich cyfrinair i rywbeth sy’n hawdd ei gofio.

Y tro cyntaf i chi fewngofnodi, byddwch yn cael eich gofyn i osod dilysu aml-ffactor i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer hunanwasanaeth ailosod cyfrinair (SSPR) gallwch ddefnyddio hyn i ailosod eich cyfrinair.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer SSPR, e-bostiwch passwordreset@coleggwent.freshservice.com gan ddefnyddio’ch cyfrif e-bost personol a chadwch lygad am yr atebion o’r Ddesg Gymorth y Coleg.

Os oes gennych gyfrif TG Coleg Gwent gallwch ailosod a newid eich cyfrinair mewngofnodi coleg yn ddiogel eich hun. Golyga hyn nad oes rhaid i chi ddibynnu mwyach ar y tîm TGCh i’w newid i chi; gallwch ei wneud eich hun o unrhyw le ac ar unrhyw adeg drwy borth Microsoft diogel. Nid yw’n orfodol i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, ond rydym yn eich annog i’w ddefnyddio.

Er mwyn gallu ailosod eich cyfrinair, rhaid i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys cofrestru eich cyfeiriad e-bost personol a/neu rif ffôn symudol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw’n ddiogel ar y cwmwl Microsoft. Dim ond at y diben o ailosod eich cyfrinair y defnyddir yr wybodaeth a gallwch ddewis optio allan o’r gwasanaeth ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r tîm TGCh. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n unol ag amserlen cadw cofnodion y Coleg.

Cyn i chi ddechrau byddwch angen mynediad at y canlynol:

  • cyfrif e-bost personol – rhaid iddo fod yn wahanol i’ch cyfeiriad e-bost Coleg Gwent
  • mynediad at ffôn symudol

Sut i gofrestru

Sut i ailosod eich cyfrinair

Unwaith y byddwch wedi ailosod eich cyfrinair, cofiwch y bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion mewn mannau eraill e.e. CG Connect, eduroam ayyb.

Lawrlwythwch yr ap TOTUM