Diwrnodau Canlyniadau
Beth sydd angen i chi ei wybod

Students celebrating with balloons outside TLZ campus

Canlyniadau Arholiadau 2025

Dymunwn bob lwc i chi!

Canlyniadau Lefel A, Lefel AS a Lefel 3

Mae canlyniadau Lefel AS/Lefel A, Bagloriaeth Cymru, Lefel 3 BTEC, UAL, Rock School a NCFE yn gyfyngedig, a byddant ar gael trwy’r Tab Canlyniadau Arholiadau yn eich Porth CG o 8.00yb ddydd Iau 14 Awst.

Bydd y campysau ar agor o 8am ar Ddiwrnod y Canlyniadau er mwyn i chi gasglu copi argraffedig o’ch canlyniadau. Sylwer, ni fydd campws Brynbuga ar agor. Gall dysgwyr sydd wedi’u lleoli ar gampws Brynbuga gasglu eu canlyniadau o gampws Parth Dysgu Torfaen yn lle.

Os nad ydych yn gallu cyrraedd y campws, o 8.30yb, byddwch yn gallu mewngofnodi i’r Porth CG i weld eich canlyniadau’n ddigidol. Byddwn ni hefyd yn anfon copi o’ch canlyniadau i’ch cyfeiriad e-bost Coleg Gwent erbyn 10yb.

I gael cyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad i’ch Porth CG, darllenwch yr adran ‘Sut i gael mynediad i’ch canlyniadau’ isod.

Canlyniadau TGAU a Lefel 2

Mae canlyniadau TGAU, Lefel 2 BTEC, a Gofal Iechyd a Gofal Plant WJEC/City and Guilds (Lefel 2 a Lefel 3) yn gyfyngedig a byddant ar gael trwy’r Tab Canlyniadau Arholiadau yn eich Porth CG o 8.00yb ddydd Iau 21 Awst. Byddwn ni hefyd yn anfon copi o’ch canlyniadau i’ch cyfeiriad e-bost Coleg Gwent erbyn 10yb.

Canlyniadau galwedigaethol eraill

Nid oes gan rai cyrff dyfarnu fel City and Guilds, Lefel 1 BTEC ac EAL ddyddiad penodol ar gyfer canlyniadau. Cyn gynted ag y byddwn yn derbyn y canlyniadau, byddant ar gael trwy’r Tab Canlyniadau Arholiadau yn eich Porth CG.

Cwestiynau Cyffredin

Bydd eich canlyniadau yn cael eu dangos yn eich Porth CG y gallwch gael mynediad iddo trwy enrolment.coleggwent.ac.uk.

I fewngofnodi i’ch porth CG:

  • Dewiswch wedi cofrestru eisoes (neu mewngofnodi e-bost personol ar ffôn symudol)
  • Rhowch eich e-bost personol a’ch cyfrinair
  • Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod trwy nodi eich cyfeiriad e-bost personol, gwasgu go ac yna dewis yr opsiwn cyfrinair anghofiedig.
  • Yn y ddewislen ar ochr chwith y sgrin, dewiswch Canlyniadau Arholiadau

Byddwch yn gweld tabl sy’n dangos y wybodaeth ganlynol:

  • Corff dyfarnu – hwn yw’r corff dyfarnu a fydd yn rhoi eich cymhwyster. Er enghraifft, WJEC, BTEC neu City and Guilds.
  • Digwyddiad bwrdd – mae hyn yn dangos yr amser y buoch yn astudio gyda ni. Er enghraifft, 23/24 (Medi 2023 i Fehefin 2024) ar gyfer Lefelau A 6A24 (cyfres arholiadau haf 2024).
  • Cod arholiad – hwn yw’r papur arholiad neu’r cyfeirnod cymhwyster.
  • Disgrifiad – hwn yw enw’r papur arholiad neu enw’r cymhwyster.
  • Gradd – mae hyn yn dangos naill ai’r marc ar gyfer y papur unigol neu’ch gradd cymhwyster gyffredinol.
  • Dyddiad ardystio
  • Tystysgrif wedi’i phostio – hwn yw’r dyddiad y postiwyd eich tystysgrif. Os yw hwn yn wag, nid ydym wedi postio’r dystysgrif eto.

Bydd llawer o bobl yn mewngofnodi i’r Porth CG ar yr un pryd ar ddiwrnod canlyniadau, felly byddwch yn amyneddgar. Byddwn hefyd yn anfon canlyniadau i’ch cyfrif e-bost coleg, neu gallwch gasglu copi printiedig o’ch campws os yw’n well gennych.

Os ydych chi eisiau cael mynediad i’ch canlyniadau trwy’r Porth CG, nid yw’n broblem gwneud hyn o du allan i’r DU. Fodd bynnag, mae mesurau diogelwch ar waith sy’n golygu os ydych chi eisiau mewngofnodi i’ch cyfrif e-bost Coleg Gwent, bydd angen i chi roi gwybod i ni. Llenwch y ffurflen ar ein desg gymorth TG i alluogi mynediad rhyngwladol i’ch cyfrif e-bost.

Defnyddir y gair ‘CASH-IN’ gan WJEC ar gyfer pynciau Lefel A i ddisgrifio’r radd gyffredinol. Os ydych chi’n disgwyl gradd derfynol ar gyfer Lefel AS neu Lefel A2 edrychwch am ‘CASH-IN’ yn y teitl.

Nid yw canlyniadau ar gael tan 8.30yb ar eich diwrnod canlyniadau. Bydd yn dangos marc ebychnod tan y bydd y corff dyfarnu wedi rhyddhau’r canlyniadau.

Cysylltwch â thîm arholiadau Coleg Gwent os oes unrhyw rai o’ch canlyniadau ar goll ar ôl 10yb ar eich diwrnod canlyniadau.

Beth bynnag sy’n digwydd ar ddiwrnod canlyniadau rydym yma i chi a gallwn eich helpu i ddod o hyd i’ch cam nesaf. Gall ein tîm cymorth helpu gyda:

  • Cyngor cyffredinol ar eich canlyniadau
  • Cymorth personol
  • Newid eich cwrs
  • Dilyniant a’ch camau nesaf

Os hoffech ymholi am eich canlyniadau gyda’r corff dyfarnu neu ofyn am gopi o’ch sgript arholiad cysylltwch â’ch tiwtor cwrs neu Bennaeth Ysgol a fydd â’r wybodaeth berthnasol i’ch helpu. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am y broses apeliadau yn ein polisïau ar CG Connect.

Byddwn yn postio eich tystysgrif i’r cyfeiriad sydd gennym ar eich cofnodion. Gallwch wirio hyn yn y Porth CG. Byddwn yn ychwanegu dyddiad at y tabl canlyniadau yn y Porth CG pan fyddwn wedi postio eich tystysgrif. Os yw hwn yn wag, nid ydym wedi postio’ch tystysgrif eto. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich Tystysgrif, cadwch hi mewn lle diogel, mae copïau yn ddrud.