
5 rheswm pam y dylai eich busnes gyflogi prentis
6 Chwefror 2023
Mae yna reswm pam fo 83% o fusnesau, o gymharu â sefydliadau eraill, yn argymell cyflogi prentis! Darllenwch ymlaen i ganfod rhai rhesymau allweddol pam y dylai eich busnes ystyried cymryd prentis...

Lansiad ein Prentisiaethau Digidol
29 Medi 2022
Fel coleg sy’n cydnabod pwysigrwydd sgiliau seiber a’u lle yng ngweithlu’r dyfodol, rydym yn falch o gyhoeddi cyflwyniad ein prentisiaethau digidol cyntaf, sy’n debygol o fod yn ddewis poblogaidd ymysg ein myfyrwyr sy’n ddeallus o ran technoleg.

Addewid Cyflogwr yn mynd o nerth i nerth
12 Gorffennaf 2022
Mae'r Addewid Partneriaeth Cyflogwr yn parhau i dyfu a datblygu wrth nesáu at ei ben-blwydd cyntaf eleni. Ym mis Mehefin, cynaliasom ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer cyflogwyr ar safle cwmni sydd newydd gofrestru gyda ni, Tiny Rebel Brewery.

Canu clodydd ein prentisiaid penigamp
27 Mehefin 2022
Ddydd Iau 16 Mehefin cafodd gwobrau prentisiaeth blynyddol Coleg Gwent eu cynnal drachefn. Am y tro cyntaf ers tair blynedd, cafodd y digwyddiad ei gynnal yn y cnawd er mwyn dathlu ein prentisiaid penigamp. Enwebwyd prentisiaid anhygoel gan aseswyr a chyflogwyr fel ei gilydd!

Interniaid yn dathlu Wythnos Anabledd Dysgu gyda charfan gyntaf lwyddiannus o gynllun peilot
24 Mehefin 2022
Yr wythnos Anabledd Dysgu hon, mae ein hinterniaid wedi cyrraedd diwedd y cwrs cyntaf o gynllun peilot drwy weithio gydag adrannau gwahanol o'r tîm Cyfleusterau yn Ysbyty Nevill Hall.

Dathlu lansiad swyddogol ein Hwb Seiber
17 Mehefin 2022
Yn ddiweddar cynhaliwyd digwyddiad lansio llwyddiannus ar gyfer ein Hwb Seiber newydd anhygoel ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy. Lansiwyd yr Hwb Seiber fel rhan o Cyber College Cymru, sef rhaglen sy’n anelu at eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn seiberddiogelwch.