Cyflogwyr

Hyfforddiant a phrentisiaethau ar gyfer eich busnes

Mae buddsoddi yn eich gweithlu yn fuddsoddiad yn eich busnes. Yn Coleg Gwent, rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i ddarparu cyrsiau hyfforddiant proffesiynol o ansawdd uchel a rhaglenni prentisiaeth sy’n helpu gweithwyr ffynnu a busnesau dyfu.

Hyfforddiant proffesiynol ac unigryw

O gyrsiau byr i gymwysterau proffesiynol, byddwn yn helpu eich gweithlu i gadw ar y blaen mewn marchnad gystadleuol. Er mwyn gwneud hyfforddiant staff yn fwy fforddiadwy, mae gennym amrywiol gyllid hyfforddiant staff ar gael.

Mae pob busnes yn wahanol, a dyna pam yr ydym yn cynnig datrysiadau hyfforddiant hyblyg wedi’u teilwra ar gyfer eich anghenion. P’un a ydych yn uwchsgilio’ch tîm, cadw at reoliadau neu’n datblygu sgiliau arbenigol, gallwn greu rhaglen hyfforddiant sy’n gweithio i chi gyda’n partneriaethau cyflogwyr.

  • Hyfforddiant wedi ei lunio o’ch cwmpas chi - Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun unigryw sy’n cwrdd â’ch nodau penodol.
  • Darpariaeth hyblyg - Gallwch dderbyn yr hyfforddiant yn eich eiddo, ar y campws neu ar-lein, unrhyw amser sy’n addas i’ch busnes.
  • Arbenigedd diwydiant - Mae ein hyfforddwyr profiadol yn darparu dysgu ymarferol a pherthnasol drwy rannu eu gwybodaeth o’r byd go iawn ym mhob sesiwn.
Tiny Rebel

Prentisiaethau ar gyfer cyflogwyr

P’un a ydych yn awyddus i uwchsgilio eich tîm presennol neu ddod â thalent newydd i mewn, rydym yma i helpu.

Llunio’ch gweithlu ar gyfer y dyfodol

Mae cyflogi prentis yn ffordd gost-effeithiol i ddatblygu talent a dod â sgiliau newydd i’ch busnes. Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r prentis cywir a darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnynt i lwyddo.

  • Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf - Mae prentisiaid yn dysgu wrth weithio tra’n ennill cymhwyster a gydnabyddir.
  • Cymorth ariannol - Mae modd y bydd cyllid gan y Llywodraeth ar gael i dalu costau hyfforddi.
  • Cymorth ar bob cam - Byddwn yn eich arwain drwy’r broses, o recriwtio i hyfforddiant parhaus.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd

Gweithiwch mewn partneriaeth gyda Coleg Gwent i ddatblygu gweithlu medrus, hyderus. Cysylltwch heddiw i archwilio’r cyfleoedd am hyfforddiant a phrentisiaethau ar gyfer eich busnes.