En
Chefs' Forum Academy - Coleg Gwent catering students

Dathlu blwyddyn arall o fod yn rhan o Academi Fforwm y Cogyddion


21 Chwefror 2022

Rydym yn teimlo’n gyffrous wrth gyhoeddi ein bod wedi ymuno ag Academi Fforwm y Cogyddion i gael blwyddyn arall o gyfleoedd gwych i’n dysgwyr a’n staff arlwyo a lletygarwch. Mae gyrfa mewn arlwyo a lletygarwch yn brysur, yn gyffrous ac yn newid yn barhaus; felly mae angen y cyfleoedd gorau arnoch i brofi’r diwydiant pan fyddwch chi’n hyfforddi yn y coleg.

Gydag ystod o gyrsiau arlwyo a lletygarwch ar gael yn Coleg Gwent, mae’n wych adnewyddu ein partneriaeth ag Academi Fforwm y Cogyddion am drydedd flwyddyn, ac rydym yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a ddaw i chi yn ei sgil. Eglurodd Pennaeth yr Ysgol, Helen Lawless, fod ein dysgwyr a’n staff yn edrych ymlaen at y dosbarthiadau meistr wythnosol gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant trwy Fforwm y Cogyddion, a’i fod wedi ein helpu i greu cysylltiadau gwych â chyflogwyr. Mae ein staff addysgu hefyd yn elwa ar gyfleoedd datblygiad proffesiynol gwych fel cigyddiaeth a patisserie, fel y gallant gynnal eu sgiliau a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau a’r datblygiadau diweddaraf yn y sector, gan rannu eu gwybodaeth a’u profiad gyda chi.

Mae Academi Fforwm y Cogyddion yn rhoi llawer o gyfleoedd rhwydweithio i ni gyda cholegau eraill hefyd, gan gynnwys cystadleuaeth Myfyriwr y Flwyddyn: Cogydd Crwst. Cyrhaeddodd un o’n dysgwyr, Morgan Upcott, y rownd derfynol y llynedd, ac rydym yn bwriadu i fwy o fyfyrwyr gystadlu yn gystadleuaeth eleni i arddangos eu sgiliau a’u doniau gyda patisserie.

Blwyddyn arall o gyfleoedd

Mae Sylfaenydd Academi Fforwm y Cogyddion, Catherine Farinha, yn falch iawn i fod yn gweithio gyda ni am flwyddyn arall. Rydym wedi meithrin partneriaeth wych ac mae cynlluniau cyffrous ar gyfer Academi Fforwm y Cogyddion eleni gyda mentrau newydd fel Craffter y Cogyddion a Myfyriwr y flwyddyn: Cogydd Crwst, yn ogystal â chyfres o ddigwyddiadau sydd wedi’u cynllunio i ddathlu eu 10fed pen-blwydd.

Mae Cinio Cynaliadwyedd yn cael ei gynnal fis nesaf ym Mwyty The Coast yn Saundersfoot gyda chogyddion Grŵp Seren, ac arddangosfa gan Glwstwr Bwydydd Da Cymru yng Ngwesty a Sba Calcot ym mis Mai. Bydd myfyrwyr o Goleg Gwent yn cael eu gwahodd i gymryd rhan, gan greu cysylltiadau â chyflogwyr blaenllaw a rhoi profiad gwych iddynt wrth astudio yn Coleg Gwent.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gynnal Diwrnod Blasu ar gyfer ysgolion lleol fis nesaf, gan helpu i gael disgyblion ysgolion uwchradd i feddwl a siarad am fwyd. Bydd yn eu hysbrydoli a’u hannog i ystyried astudio cyrsiau mewn arlwyo a lletygarwch pan fyddant yn symud ymlaen i addysg bellach ar ôl gorffen yn yr ysgol.

Ymweliad â Bwyty Morels

Chefs' Forum Academy - food from Morels restaurant

Ymwelodd Catherine a Rheolwr Busnes Cenedlaethol Fforwm y Cogyddion, Alexandra Duncan, yn ddiweddar â Bwyty Morels ar Gampws Crosskeys, lle cawsant fwynhau bwydlen thema San Ffolant wych, ynghyd â phecynnau o siocledi wedi’u gwneud â llaw, i gyd wedi’u gwneud a’u gweini gan ein myfyrwyr. Paratodd y dysgwyr arlwyo wledd gan gynnwys macaroni blasus a photiau caws y Fenni, cacen polenta a ffacbys, llysiau rhost a saws iogwrt ciwcymbr i ddechrau; yna pastai pysgod fendigedig yn cynnwys penfras, eog, corgimychiaid mawr a saws madarch, gyda thatws stwnsh hufennog ar ei phen ac yna caws Tyndyrn wedi’i gratio; wedi’i ddilyn gan darten crymbl afal a riwbob gyda hufen iâ mafon, a choffi barista gan y tîm blaen tŷ i orffen.

Mwynhaodd tîm Fforwm y Cogyddion eu hymweliad â Champws Crosskeys yn fawr ac maent nawr yn edrych ymlaen at weld ein dysgwyr yn arddangos eu sgiliau mewn cinio Dydd Gŵyl Dewi, yn arddangos Bwyd Môr Cymru a chogyddion yn L’Oscar yn Llundain ar 1 Mawrth, a fydd yn gyfle profiad gwaith gwych i’n myfyrwyr!

Os ydych chi’n awyddus i gael gyrfa fel cogydd, darganfyddwch ein hamrywiaeth o gyrsiau arlwyo, coginio a lletygarwch heddiw. Ymunwch â’n digwyddiad agored nesaf i weld ein cyfleusterau gwych a dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi yn Coleg Gwent.