Eich helpu i baratoi ar gyfer y coleg
Mae pontio yn golygu proses o newid, fel symud o’r ysgol i’r coleg. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo ychydig yn nerfus am newid ac mae symud o’r ysgol i’r coleg yn newid mawr. Ond cofiwch nid ydych ar eich pen eich hun, mae yna lawer o gefnogaeth ar gael yn Coleg Gwent.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc, eu teuluoedd, ysgolion, Gyrfa Cymru ac unrhyw bobl eraill sy’n eich cefnogi, i ddeall eich anghenion a’r ffordd orau i’ch cefnogi. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth orau, byddwn yn gofyn am dystiolaeth o’ch anghenion cymorth dysgu a/neu anghenion meddygol/corfforol.
Cynlluniau Datblygu Unigol
Os oes gennych Gynllun Datblygu Unigol (CDU), byddwn yn dod i’ch adolygiad olaf yn yr ysgol. Mae’n syniad da i ofyn i Gydlynydd ADY eich ysgol i’n gwahodd ni. Yn eich adolygiad, gallwch ddweud wrthym beth sy’n bwysig i chi (nawr ac yn y dyfodol) a gallwn ddechrau cynllunio’ch cyfnod pontio.
Gallwn gynllunio gweithgareddau trosglwyddo i’ch helpu i ddod i adnabod y coleg fel eich bod chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl cyn i chi ddechrau, a’ch helpu i deimlo’n ddiogel ac yn hapus. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod y staff sy’n gweithio gyda chi’n ymwybodol o’ch anghenion cymorth er mwyn eich helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Mae’r animeiddiadau a’r fideos hyn yn helpu pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr i baratoi ar gyfer y coleg, ac rydyn ni yma i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi neu’ch rhieni/ gofalwyr am ddechrau’r coleg felly cysylltwch â ni.
Adnoddau defnyddiol:
Mae’r animeiddiadau a’r fideos hyn yn helpu pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr i baratoi ar gyfer y coleg.
Ac rydyn ni yma i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi neu’ch rhieni/ gofalwyr am ddechrau’r coleg felly cysylltwch â ni.
Llwyfan Cymorth Pontio
Trosolwg o wybodaeth ar gyfer athrawon, ymgynghorwyr gyrfa ac unrhyw un sy’n cefnogi ymadawyr ysgol