En

Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol

Pwy ydym ni?

Mae gan bob campws Gydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol (ALSCo) a thîm o Gynorthwywyr Cymorth Ychwanegol (ASAs) sy’n darparu cefnogaeth yn y dosbarth a thu allan i’r dosbarth i bobl ifanc ag ADY. Cefnogir pob tîm ar y campws gan Weinyddwr ADY ac mae’r Asesydd ADY yn asesu pobl ifanc ar gyfer trefniadau mynediad i arholiadau.

Yn ogystal, mae Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu (CSWs) yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac mae’r Swyddogion Pontio ac Adolygu yn cefnogi pobl ifanc sy’n symud o’r ysgol i’r coleg.

Mae manylion tîm cymorth ADY pob campws ar gael isod:

Elaine Jones

Elaine Jones

Rheolwr ADY

Ers cymhwyso fel athrawes ysgol gynradd, bûm yn gweithio mewn ysgolion yng nghanol dinas Birmingham am ddeng mlynedd. Pan symudais yn ôl i Gymru, dechreuais weithio i Coleg Gwent. Ers mi ddechrau yn 2007, rydw i wedi bod yn ddarlithydd, yn gydlynydd sgiliau ac yn ymgynghorydd dysgu yn y llyfrgell cyn arbenigo mewn anghenion dysgu ychwanegol. Roeddwn i’n Gydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol yng Nghasnewydd ac fe’m penodwyd yn Rheolwr ADY dair blynedd yn ôl.

Mae gennyf Radd Meistr mewn Addysg, Diploma Ôl-radd mewn Anawsterau Dysgu Penodol a Thystysgrif Ôl-radd mewn Awtistiaeth.

Rwy’n mwynhau teithio ac wedi heicio o gwmpas y byd ar fy mhen fy hun am flwyddyn. Mae gennyf ofn uchder ond rydw i wedi gwneud naid parasiwt, naid bynji a chwrs ymosod oddi ar y llawr. Er, nid yw hyn wedi helpu i mi beidio â bod ofn uchder.

profile photo

Gavin Vowles

Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY)

Rydw i wedi bod yn gweithio yn y byd addysg am ryw ddeng mlynedd.

Rwy’n caru fy nheulu, cerddoriaeth a chlwb pêl-droed Tottenham Hotspur (COYS)

E-bost: Gavin.Vowles@coleggwent.ac.uk
Ystafell: D2.06
Ffôn: 07485 329910

profile photo

Louise Russo

Swyddog Pontio ac Adolygu/Gweinyddwr ADY

Rydw i wedi bod yn gweithio i Coleg Gwent am ugain mlynedd yn dal llawer o wahanol swyddi.

Rwyf wrth fy modd dramor ac yn ymddwyn fel petawn i’n ddeuddeg oed pan fyddaf yn Disney World Fflorida.

E-bost: Louise.Russo@coleggwent.ac.uk
Ystafell: D2.06
Ffôn: 07485 329846

profile photo of Donna Westcott

Donna Westcott

Gweinyddwr ADY

E-bost: donna.westcott@coleggwent.ac.uk

Dewch ar daith rhithiol o’r campws!

profile photo

Sharren Bessant

Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY)

Rydw i wedi bod yn gweithio i Coleg Gwent am saith mlynedd.

Rwy’n mwynhau creu gemwaith hardd efo blodau go iawn.

E-bost: Sharren.Bessant@coleggwent.ac.uk
Ystafell: C201C
Ffôn: 01633 466133

profile photo

Jordan Davies

Swyddog Pontio ac Adolygu

Rwyf wedi bod yn gweithio i Coleg Gwent ers ychydig dros 2 flynedd, ac rwy’n gweithio i’r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghasnewydd, Parth Dysgu Torfaen a Brynbuga.

Rydw i wrthi’n astudio am Radd mewn Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth yn rhan amser ac wedi mabwysiadu Panda yn Tsieina!

profile photo of Elinor Morgan

Elinor Morgan

Gweinyddwr ADY

Mae gen i 20 mlynedd o brofiad ym maes lletygarwch a gweithio gyda’r cyhoedd, gan weithio yng Nghymru a Lloegr. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i deithio i rai gwledydd ffantastig, gan gynnwys Singapore ac Awstralia, a byw am amser byr yn Norwy hefyd.

Roeddwn i’n hoff o chwarae pêl-rwyd tra yn yr ysgol, a dychwelais iddi rhyw 20 mlynedd yn ddiweddarach, a nawr rwy’n dwli ar ei chwarae yn fy nghlwb lleol!

E-bost: Elinor.Morgan@coleggwent.ac.uk

Dewch ar daith rhithiol o’r campws!

profile photo

Michelle Williams

Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol (CDY)

Mae gen i brofiad o weithio yn y maes cymorth dysgu, ac rwyf wedi gweithio ar sawl campws yn addysgu a chefnogi dysgwyr yn y byd addysg bellach. Rwyf wedi treulio’r 5 mlynedd diwethaf yn gweithio i Coleg Gwent, ac wedi ymuno â’r tîm ADY yn ddiweddar.

Rwyf wrth fy modd â cherddoriaeth, gwersylla, cerdded a threulio amser yn yr awyr agored gyda fy nghi.

E-bost: Michelle.Williams@coleggwent.ac.uk
Ystafell: K.10
Ffôn: 01495 333482

profile photo

Lowenna Huggins

Swyddog Pontio ac Adolygu

Rydw i wedi gweithio yn y byd addysg am fwy na deng mlynedd, ers mi hyfforddi yn athrawes ddrama.

Rwy’n hoffi cathod a rhedeg hanner marathon

profile photo of Karla Ball

Karla Ball

Hyfforddwr Cyfathrebu

Mae gen i gefndir proffesiynol mewn gweithio gydag oedolion ag ADY, anawsterau Dysgu ac anghenion cyfathrebu am dros 24 mlynedd.

Rydw i wedi gweithio o fewn y gymuned ac ym maes byw â chymorth fel Gweithiwr Gofal Cymdeithasol, ac am y 10 mlynedd diwethaf rydw i wedi gweithio ym maes addysg ar gyfer Coleg Gwent fel Cynorthwy-ydd Cymorth Ychwanegol yn yr adran Sgiliau Byw’n Annibynnol.

Rydw i’n hyfforddedig mewn Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, PECS a rhywfaint o BSL.

Yn ystod fy amser hamdden, rydw i’n hoff o fynd i’r Theatr, ac i Gyngherddau a ffeiriau Teganau. Mae fy niddordebau a hobïau yn cynnwys Celf a Chrefft, Pobi, posau rhesymegol a chwarae dartiau.

E-bost: Karla.Ball@coleggwent.ac.uk

profile photo

Victoria Cleave

Gweinyddwr ADY

Bûm yn gweithio yn y maes gwasanaethau ariannol am fwy na deng mlynedd, yn y maes gweinyddu addysg am chwe blynedd, a gyda Coleg Gwent am ychydig dros ddwy flynedd.

Mae gennyf Radd Meistr mewn Ysgrifennu Nofelau ac rydw i’n mwynhau ysgrifennu am Ffantasi Trefol a Dirgelwch Goruwchnaturiol Clyd.

Dewch ar daith rhithiol o’r campws!

profile photo of Luka Brackley

Luka Brackley

Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol

Rwyf wedi gweithio mewn addysg fel arbenigwr ADP/llythrennedd, athrawes Saesneg a Chydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol ers 8 mlynedd. Mae gen i Ddiploma Ôl-raddedig mewn Anawsterau Dysgu Penodol, rwyf wedi cael fy achredu yn flaenorol gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain ac rwyf wedi cyhoeddi erthygl ar gefnogi dysgwyr sydd gyda dyslecsia yn yr adolygiad Psychology of Education.

Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau marchogaeth a mynychu dosbarth Dance Fit Sioe Gerdd. Rwy’n ffan enfawr o Disney ac rwyf wedi ennill sawl cwis ar Disney.

E-bost: Luka.Brackley@coleggwent.ac.uk
Ystafell: PDT 2.20

profile photo

Jordan Davies

Swyddog Pontio ac Adolygu

Rwyf wedi bod yn gweithio i Coleg Gwent ers ychydig dros 2 flynedd, ac rwy’n gweithio i’r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghasnewydd, Parth Dysgu Torfaen a Brynbuga.

Rydw i wrthi’n astudio am Radd mewn Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth yn rhan amser ac wedi mabwysiadu Panda yn Tsieina!

profile photo

John Smith

Gweinyddwr ADY

Rwyf wedi gweithio ym maes gweinyddiaeth am y 10 mlynedd diwethaf gyda GLlTEF, Carchardai a Phrawf. Hefyd, treuliais 18 mis yn rhedeg Amgueddfa Torfaen. Cyn hyn roeddwn yn gweithio ym maes rheoli manwerthu gyda nifer o gyflogwyr megis Superdrug, Sainsburys a B&Q.

Rwy’n mwynhau chwarae golff, snwcer a dartiau ac yn mwynhau’r rhan fwyaf o chwaraeon. Mae fy 4 wŷr ac wyres yn cymryd llawer o’m hamser bellach.

E-bost: Jonathan.Smith3@coleggwent.ac.uk
Ystafell: TLZ 2.18

Ewch ar daith rithwir o amglych PDT!

Ewch ar daith rithwir o amglych Brynbuga!

profile photo of Rhys Lewis

Rhys Lewis

Hyfforddwr Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistiaeth

Rwyf wedi bod yn cefnogi unigolion sydd ag awtistiaeth ers dros 10 mlynedd bellach. Yn gyntaf yn y Brifysgol, lle’r oeddwn yn astudio’r Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig. Es ymlaen wedyn i ddechrau gweithio mewn Safle Ymchwilio Awtistiaeth, lle’r oeddwn yn cynnig cymorth a strategaethau i staff, teuluoedd a disgyblion gydag anhwylderau ar y sbectrwm awtistiaeth ledled Torfaen.

Yn ystod fy amser hamdden, rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu a fy ffrindiau. Mae fy niddordebau’n cynnwys technoleg, y newyddion diweddaraf a choginio. Rwyf wir yn mwynhau mynd allan am bryd o fwyd i’m hoff fwyty, Wagamama.

E-bost: Rhys.Lewis@coleggwent.ac.uk
Ffôn: 07485 314804

profile photo of David Clegg

David Clegg

Hyfforddwr Technoleg Gynorthwyol

Rwyf wedi gweithio yn y byd addysg ers tua 7 mlynedd, fel gweithiwr cymorth yn ogystal ag athro. Yn y gorffennol, roeddwn yn gweithio yn y sector rhaglennu ac yn arfer creu gwefannau ar gyfer cwmnïau amrywiol.

Rwy’n mwynhau mynd i’r theatr, cerddoriaeth a phob math o chwaraeon. Rwy’n cefnogi Arsenal, ac rwyf wedi cael profiad o chwarae pêl-droed lled-broffesiynol i Dagenham a Redbridge fel gôl-geidwad.

Email: David.Clegg@coleggwent.ac.uk

Amanda Taylor

Amanda Taylor

Cydlynydd Cynlluniau Datblygu Unigol

Rwyf wedi gweithio mewn addysg fel gweithiwr cymorth ers dros 30 mlynedd, gyda seibiannau gyrfa i gael fy 2 blentyn. Yn nyddiau cynharach fy ngyrfa, roeddwn yn gweithio mewn ysgolion cynradd, yna 10 mlynedd yn ôl dechreuais gefnogi mewn addysg ôl-16, gan sylweddoli’n gyflym mai dyma oedd fy nghryfder.

Roeddwn yn gweithio fel gweithiwr cymorth 1 i 1 gyda dysgwyr gyda diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD) am 8 mlynedd ac yn ddiweddar iawn ymunais â Coleg Gwent fel cynorthwyydd cymorth a nawr rwy’n falch o ddweud fy mod yn rhan o’r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Fy hobïau a diddordebau yw fy 2 ŵyr a cherdded fy 2 gi sbrocker yn y mynyddoedd ger lle rwy’n byw. Rydw i hefyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth, mynd i’r theatr, darllen a mynd ar wyliau dramor.

E-bost: Amanda.Taylor@coleggwent.ac.uk

Carly Williams

Carly Williams

Cydlynydd Cynlluniau Datblygu Unigol

Rwyf wedi bod yn gweithio i Coleg Gwent ers 11 mlynedd. Dechreuais fel gweithiwr cymorth yn y brif ffrwd a nawr rwy’n addysgu Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) ac yn gweithio fel Cydlynydd CDU ar gyfer ILS. Mae gen i Dystysgrif PG mewn Awtistiaeth ac rwy’n gweithio tuag at fy ngradd feistr mewn Awtistiaeth.

Rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy ffrindiau a theulu. Rwy’n dwli ar anifeiliaid ac ar hyn o bryd mae gen i 2 gath a 2 gwningen. Yn fy amser hamdden rydw i wrth fy modd yn peintio, yn arlunio ac yn ymarfer ioga.

E-bost: Carly.Williams@coleggwent.ac.uk