Chwaraeon

3 students holding rugby balls and sports kit in front of sports building

Mae chwaraeon yn bwysig i ni yma yn Coleg Gwent! Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o gyrsiau chwaraeon, mae ein holl gampysau’n cynnwys cyfleusterau chwaraeon gwych hefyd, megis neuaddau chwaraeon, campfeydd, ystafelloedd ffitrwydd a chaeau chwarae awyr agored. Rydym felly’n annog ein holl ddysgwyr i gymryd rhan mewn chwaraeon gyfochr â’u hastudiaethau er mwyn cynnal eu llesiant yn y coleg.

Mae’r gampfa ar agor yn ystod y tymor yn unig ac wedi cau ar wyliau banc. Rhaid i bob aelod adael y safle (gan gynnwys y cyfleusterau newid) erbyn yr amseroedd isod. Rhaid i bob aelod adael y safle (gan gynnwys y cyfleusterau newid) erbyn yr amseroedd isod fel y gall dosbarthiadau ddechrau ar amser ac mae’r gofalwyr yn gallu cloi.

Amseroedd Agori’r Gampfa:

Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener
Campfa
07:00 – 09:00
Campfa
07:00 – 09:00
Campfa
07:00 – 09:00
Campfa
07:00 – 09:00
Campfa
12:00 – 14:00
Campfa
12:00 – 14:00
Campfa
16:00 – 18:30
Campfa
16:00 – 18:30
Campfa
14:00 – 17:45

Dosbarthiadau Ffitrwydd:

Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener
Cylchedau
07:15 – 08:00
Kettlebells
07:15 – 08:00
Seiclo grŵp dan do
07:15 – 08:00
Cylchedau
07:15 – 08:00
Dosbarth sypréis
12:30 – 13:15
Ymwrthiant yn y stiwdio
(8 o leoedd)
16:00 – 18:30

Prisiau staff a phreswylwyr

£25 am 10 sesiwn / £3.50 wrth dalu fesul ymweliad yn cynnwys dosbarthiadau

Pris aelodaeth am hanner tymor yw £35 (gweler dyddiadau isod):

14 Tachwedd – 23 Rhagfyr
9 Ionawr – 17 Chwefror
27 Chwefror – 31 Mawrth
17 Ebrill – 31 Mai

Prisiau i ddysgwyr

£10 am 10 sesiwn / £2 wrth dalu fesul ymweliad yn cynnwys dosbarthiadau

Cabinet tlysau rydym yn ymfalchïo ynddo

Mae’r coleg yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Chwaraeon Colegau Prydain bob blwyddyn, ac mae ein timau’n dod yn ôl i’r campws gyda llond trol o fedalau. O chwaraeon tîm fel tennis a phêl-rwyd, i drampolinwyr a rhedwyr traws gwlad unigol – mae ein myfyrwyr ni ymhlith rhai o’r goreuon ym Mhrydain. Mae nifer o ddysgwyr yn dilyn ôl troed ein tiwtoriaid, sydd wedi ennill capiau dros Gymru ac wedi cael llwyddiant mewn cystadlaethau o fewn eu chwaraeon penodol eu hunain hefyd. Mae chwaraeon unigol fel badminton, tennis, rhedeg traws gwlad a thennis bwrdd ar gael fel rhan o gystadlaethau AoC.

Ymuno â thîm llwyddiannus

Mae ymuno â thîm chwaraeon yn ffordd wych i wneud ffrindiau newydd yn y coleg, pa un ai eich bod eisoes yn cystadlu ar lefel elitaidd, neu rydych eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chadw’n ffit ac iach. Os oes gennych chwant am gystadleuaeth, ymunwch ag un o’n timau pêl-rwyd, pêl-droed, hoci a rygbi sy’n cystadlu mewn prif gynghreiriau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Dysgwch fwy am ein hacademïau chwaraeon llwyddiannus

Rydym yn falch iawn o fod yn gartref i Academi Dreigiau Iau Casnewydd Gwent, yn ogystal â’r ‘academi’ rygbi gyntaf i fenywod yng Nghymru, academi bêl-droed a thimau pêl-rwyd a thennis llwyddiannus

Mae gennym academïau rygbi i fechgyn a menywod yn Coleg Gwent, sy’n rhoi cyfle i chi gyfuno eich datblygiad fel chwaraewr rygbi law yn llaw â’ch astudiaethau. Mae Campws Crosskeys yn gartref i Academi Dreigiau Iau, lle mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau llawn amser ar unrhyw un o gampysau Coleg Gwent – un ai yn ymwneud â chwaraeon, cyrsiau Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol eraill – yn ogystal ag elwa o 16 awr o hyfforddiant penodol bob wythnos gyda hyfforddwyr y Dreigiau fel rhan o raglen ddatblygu dwy flynedd gyfochr â’u hastudiaethau.

Ar hyn o bryd mae ein tîm yn bencampwyr Cymru ar ôl ennill pencampwriaeth Ysgolion a Cholegau Undeb Rygbi Cymru y tymor diwethaf. Mae gennym dîm 1af ac 2ail dîm yn chwarae bob dydd Mercher, gyda 77 o chwaraewyr cofrestredig. Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau cryfder a chyflyru, sesiynau datblygu sgiliau unigol, hyfforddiant 1 i 1, sesiynau uned, gwaith paratoi tîm a dadansoddi fideo unigol/uned.

Mae ein tîm 1af yn chwarae yng Nghynghrair y Colegau sy’n cael ei noddi gan Undeb Rygbi Cymru, ac sy’n cael ei darlledu’n wythnosol ar S4C. Mae ein 2ail dîm yn chwarae yng Nghynghrair Rygbi Elitaidd Colegau Prydain, gan chwarae gemau mewn rhaglenni tymhorol ar draws De Orllewin Lloegr a Chymru.

Ffeithiau am Academi Dreigiau Iau:

  • Mae 11 o aelodau presennol uwch garfan y Dreigiau wedi chwarae i Coleg Gwent
  • Mae 9 aelod o garfan pontio’r Dreigiau wedi chwarae i Coleg Gwent
  • Mae 7 aelod o garfan academi’r Dreigiau wedi chwarae i Coleg Gwent
  • Roedd 17 aelod o dîm Coleg Gwent y tymor diwethaf yn aelodau o garfan dan 18 oed y Dreigiau
  • Roedd 7 aelod o dîm Coleg Gwent y tymor diwethaf yn rhan o garfan dan 18 oed Cymru.

Mae gennym hefyd dîm academi rygbi i fenywod yn cynnwys 38 o chwaraewyr, sy’n tyfu o ran maint a phoblogwyd bob blwyddyn. Cynhelir hyfforddiant ar gyfer rygbi i fenywod yn wythnosol, ac fe gymerir rhan mewn cystadlaethau a gemau cwpan hefyd. Mae chwaraewyr rygbi benywaidd yn cystadlu mewn cystadlaethau cynghrair gyda 7, 10 ac 15 bob ochr. Y menywod rygbi yw Pencampwyr Cenedlaethol yr Urdd ar hyn o bryd ac roedd chwaraewyr o Crosskeys yn rhan o Dîm Buddugol Medal Aur Colegau Cymru AoC yn 2019.

Mae gan Academi Bêl-droed Coleg Gwent dimau Bechgyn a Merched gyda 64 o chwaraewyr cofrestredig wedi’u lleoli ar Gampws Crosskeys. Mae’r Academi Bêl-droed wedi’i hymgorffori o fewn amserlen y coleg, er mwyn i fyfyrwyr sy’n fechgyn a merched allu dilyn rhaglen yr academi gyfochr â’u hastudiaethau. Mae’r rhaglen yn cynnwys – Hyfforddiant Tîm, Sesiynau Seiliedig ar Egwyddorion, Meddygfeydd Teulu, Arferion Penodol, Hyfforddiant Unigol, Hyfforddiant Gôl-geidwad, Paratoi at Gêm, Sesiynau Cryfder a Chyflyru, Systemau Chwarae, Systemau Technegol, Sesiynau Tactegol, a Dadansoddiad Fideo/Uned Unigol. Mae gemau cartref yn cael eu chwarae bob prynhawn Mercher a’n cae chwarae cartref ni yw Stadiwm Cwmbran – 3G.

Mae’r academi yn chwarae yng Nghategori 2 Cynghrair Colegau Cymru, ac Academi Bêl-droed Coleg Gwent yw deiliaid Cwpan dan 19 Ysgolion Gwent a deiliaid Cwpan dan 18 Ysgolion Casnewydd ar hyn o bryd. Mae’r Academi Bêl-droed i Fenywod hefyd yn chwarae yn Nhwrnamaint Cenedlaethol 7 bob ochr Cymru.

Mae llwyddiant rhaglen yr Academi yn tyfu’n barhaus, gan fod cyn-chwaraewyr wedi chwarae i Golegau Cymru, Ysgolion Cymru a sgwadiau cynrychioliadol eraill hefyd. Ar hyn o bryd mae cyn chwaraewyr yr Academi hefyd yn chwarae mewn clybiau cynghrair/lefel uchel.

Mae cyn chwaraewr Academi Bêl-droed, Lewis Webb, wedi arwyddo cytundeb pêl-droed proffesiynol gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn 2020, ac mae Lewis wedi cynrychioli Cymru dan 21 yng ngemau rhagbrofol Pencampwriaeth yr Euros.

Cynhelir hyfforddiant pêl-rwyd unwaith yr wythnos yn ystod boreau Llun ar Gampws Crosskeys, yn ogystal â gemau cwpan/cynghrair ar brynhawniau Mercher. Mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw gampws a chwrs gymryd rhan, gyda sesiynau’n cynnwys Cryfder a chyflyru, Adeiladu Tîm, Sgiliau pêl, Chwarae yn ôl setiau, Tactegau a thechnegau – saethu, ymosod ac amddiffyn, Gosod Nodau fel Tîma Dadansoddiad fideo, datblygu tîm ac unigolyn.

Mae dau dîm pêl-rwyd yn chwarae ar hyn o bryd, gyda’n tîm 1af yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cynghrair a’n 2il Dîm yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn colegau eraill yng Nghymru. Bob blwyddyn, dewisir myfyrwyr i gynrychioli timau pêl-rwyd dan 18 De Ddwyrain Cymru Coleg Gwent a thîm cynrychioliadol Colegau Cymru AoC, gyda gemau Gartref ac Oddi Gartref. Maent hefyd yn cystadlu yng Nghystadlaethau Ysgolion De Ddwyrain Cymru.

Roedd Rebecca Baker, dysgwr Chwaraeon BTEC, o Gampws Crosskeys yn chwarae yn safle GA/WA yn ein tîm pêl-rwyd. Dywedodd; “Dysgais lawer amdanaf fi fy hun fel chwaraewr wrth wella fy sgiliau’n raddol er mwyn chwarae yn safle GA/WA. Fe wnes i lawer o ffrindiau a datblygu fy sgiliau pêl-rwyd ymhellach. Cychwynnais chwarae yn erbyn genethod eraill oedd ynghlwm â thimau Cymru hefyd, ac roedd hynny’n heriol iawn i mi.”

Ar ôl derbyn cymorth gan dîm Pêl-rwyd Coleg Gwent, cafodd Rebecca y cyfle i chwarae o flaen Detholwyr Dawn Pêl-rwyd Cymru, a chafodd wahoddiad i fynychu sesiynau hyfforddi Canolfan Cymru. Ers hynny, mae hi wedi cael cryn lwyddiant yn chwarae i Brifysgol Caerfaddon, carfan dan 21 oed Cymru a’r Dreigiau Celtaidd, Prif Gynghrair Pêl-rwyd. Ac yn Coleg Gwent y cychwynnodd ei thaith hi!

Mae hyfforddiant hoci ar gael ar ein Campws Crosskeys i ddysgwyr ar unrhyw gampws ac ar unrhyw gwrs. Mae ein gemau hoci yn seiliedig ar gystadlaethau Cwpan chwaraeon De Ddwyrain Cymru ac AoC ac rydym wedi cael llwyddiannau gwych dros y blynyddoedd!

Yn 2019-20, dewiswyd Tegan Waters, un o’n dysgwyr Safon Uwch o Gampws Crosskeys, i gynrychioli tîm Cenedlaethol AoC, gan gystadlu ar y lefel uchaf o ran hoci mewn Colegau. Ochr yn ochr â Tegan roedd Eliza Bingham, o Gampws Crosskeys, hefyd yn rhan o Dîm Buddugol Medal Arian Colegau Cymru AoC yn 2019.