
Cynllun Cerdyn Bws Coleg Gwent
Gall teithio i’r coleg fod yn fforddiadwy! Gyda Chynllun Cerdyn Bws Coleg Gwent, mae posib i chi dderbyn gostyngiad ar eich taith bws i, ac o’r coleg, gyda chyfraddau teithio plant yn ystod gyda’r nosau, ar benwythnosau ac yn y gwyliau (ac eithrio gwyliau’r haf). Mae’n rhaid i chi gael Fy Ngherdyn Teithio er mwyn i’ch cerdyn fod yn ddilys (gweler isod).
Mae ymuno â’r cynllun yn hawdd, yn dibynnu ar ble rydych yn byw:
- Gwnewch gais i’ch awdurdod lleol (ALl) am gymorth cerdyn bws (manylion cyswllt isod). Os byddwch yn cael eich cymeradwyo, bydd angen i chi dalu eich ffi am y tymor cyntaf wrth gofrestru.
- Gwneud cais am Fy Ngherdyn Teithio (16-21)
Casglwch eich cerdyn bws am y tymor gan y Gwasanaethau Dysgwyr a thalu eich ffi ostyngol ar y bws.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
www.blaenau-gwent.gov.uk | 01495 311556
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
www.caerphilly.gov.uk | 01443 866530
Cyngor Dinas Casnewydd
www.newport.gov.uk | 01633 656656
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Gwneud cais am Fy Ngherdyn Teithio (16-21)
Talwch eich ffi bob tymor wrth i chi ymrestru:
- £10 os ydych rhwng 16 a 18 oed (wedi hepgor y taliad ar gyfer 2023)
- £40 os ydych yn 19 oed neu hŷn (wedi hepgor y taliad ar gyfer 2023)
Casglwch eich cerdyn bws am y tymor gan y Gwasanaethau Dysgwyr a thalu eich ffi ostyngol ar y bws.
- Cwblhewch y ffurflen Cerdyn Teithio Coleg Gwent a anfonir at eich tîm Gwasanaethau Dysgwyr y campws
Mae hwn yn gynllun teithio am bris gostyngol ar gyfer pobol 16-21 oed gan Lywodraeth Cymru Mae’n rhaid i chi gael Fy Ngherdyn Teithio i sicrhau fod eich cerdyn bws Coleg Gwent yn ddilys. I gofrestru, ewch i fyngherdynteithio.llyw.cymru neu ffoniwch 03002002233.
Noder: mae pob cymorth ariannol yn dibynnu ar gyllid y coleg ac fe all newid. Mae’n rhaid i chi gyrraedd y meini prawf cymhwystra. Nid yw cymorth wedi’i warantu nes i chi gael hysbysiad ysgrifenedig. Am fwy o wybodaeth a chyngor ariannol anfonwch e-bost at financesupport@coleggwent.ac.uk neu ffoniwch 01495 333777.
Amserlenni Bws
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau bysiau ac amserlenni, ewch i www.traveline.info neu ffoniwch 0871 200 2233.