En

Cymorth Ariannol

Finance and transport staff on yellow background
play

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gael cymorth gyda chost astudio, gyda llawer o wahanol grantiau ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Am gymorth neu gyngor, cysylltwch â’r Gwasanaethau Dysgwyr ar un o’n campysau neu ffoniwch 01495 333777.

Bydd pob Cytundeb Dysgwyr LCA/GDLlC a cheisiadau i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar Borth CG ar gyfer 2023/24 (byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fyddant ar gael).

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Os ydych chi’n 16 i 18 oed, yn byw yng Nghymru ac eisiau parhau â’ch addysg ar ôl ysgol, gallai’r LCA roi £40 yr wythnos i chi, a delir bob pythefnos. Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd, gwnewch gais I Cyllid Myfyrwyr Cymru, cwblewch Cytundeb Dysgu LCA  gyda Coleg Gwent ac yn cynnal lefel presenoldeb o 100%.

Cysylltwch â’r  Gwasanaethau Dysgwyr neu ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru  am ragor o fanylion.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) - Addysg Bellach

Gallai’r grant hwn roi hyd at £1,500 y flwyddyn i chi os ydych chi’n 19 oed neu’n hŷn, yn astudio cwrs Addysg Bellach yn y coleg. Gwiriwch y meini prawf cymhwysedd, gwnewch gais I  Cyllid Myfyrwyr Cymru,  cwblewch Cytundeb Dysgu GDLIC  gyda Coleg Gwent a chwrdd a’r meini prawf presenoldeb ac ymddygiad.

Cysylltwch â’r  Gwasanaethau Dysgwyr neu ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru am ragor o fanylion.

Os ydych yn cael trafferth i lawrlwytho pecyn ymgeisio EMA neu WGLG, ac eisiau i un gael ei anfon atoch chi, e-bostiwch eich enw, cyfeiriad a nodi os hoffech becyn EMA neu WGLG i financesupport@coleggwent.ac.uk.

Cronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF)

Mae’r gronfa hon yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru ac yn seiliedig ar brawf modd. Mae’n rhaid ichi fod wedi cofrestru ar gwrs Addysg Bellach llawn amser ac wedi bod yn byw yn y DU am o leiaf dair blynedd cyn dechrau eich cwrs.

Mae ceisiadau ar gyfer 2023/24 bellach ar gael ar Borth CG (rhaid eich bod wedi ymrestru gyda’r coleg i allu cyrchu’r ffurflen)

GWEITHDREFN Cronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF)

Sut all y Gronfa Ariannol wrth Gefn eich helpu chi?

 

  Dysgwr Llawn Amser (12+ awr yr wythnos)
O dan 19 oed Dros 19 oed
Cost tocyn bws Ie Ie
Costau Gofal Plant Ie Ie
Grant Offer Ie Ie
Talebau bwyd Ie Na (ar wahân i amgylchiadau arbennig)

 

Costau tocyn bws  – mae’r grant hwn yn helpu tuag at gost tocyn bws, felly bydd eich teithiau cymwys yn rhad ac am ddim.

Costau gofal plant – bydd y grant yn talu 90% o’ch costau gofal plant ar gyfer un plenty, a hyd at uchafswm o £45 u dyd.

Grant offer – bydd y grant yn mynd tuag at brynu offer hanfodol ar gyfer eich cwrs.

Costau prydau bwydos ydych rhwng 16-18 oed ac rydych chi neu eich Rhieni / Gwarcheidwaid yn derbyn budd-daliadau cymwys, gallwch gael lwfans pryd bwyd dyddiol o £3.90 y dydd.

Cymorth Caledios oes gennych broblemau ariannol eithafol neu os yw eich amgylchiadau’n newid a bod hynny’n effeithio ar eich presenoldeb yn y Coleg, gallwch wneud cais am gymorth ariannol drwy’r gronfa hon.  Siaradwch â’r Gwasanaethau Dysgwyr i gael rhagor o fanylion.

Cyllid ReAct

Ydych chi wedi cael eich gwneud yn ddi-waith yn y 6 mis diwethaf, neu a ydych chi’n wynebu colli eich swydd? Gall ReAct eich helpu i wella’ch siawns o ddychwelyd i’r gwaith trwy ddarparu hyd at £2,500 tuag at gost cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol. I wneud cais, cysylltwch â’ch swyddfa Gyrfa Cymru leol a fydd yn eich helpu i edrych ar eich opsiynau.

Ymddiriedolaeth Goffa David Davies

Os ydych chi’n 17 oed ac yn ddibynnol ar weithiwr glo/ cyn-weithiwr glo yn Ne Cymru, gallech gael grant sydd ddim yn seiliedig ar brawf modd o hyd at £300 gan Ymddiriedolaeth Goffa David Davies trwy Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo (CISWO).

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gymwys, cysylltwch andrew.morse@ciswo.org.uk.

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) Cymru

Mae DAF Cymru yn disodli rhannau o’r Gronfa Gymdeithasol, a alwyd weithiau’n ‘benthyciadau argyfwng’ neu ‘grantiau gofal cymunedol’. Mae’r gronfa’n cynnig cymorth drwy Daliadau Cymorth mewn Argyfwng a Thaliadau Cymorth i Unigolion. I wneud cais, ffoniwch 0800 859 5924 neu cliciwch yma.

Gwobr Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog

Gallai hyn eich helpu gyda chostau trafnidiaeth, offer neu gostau eraill yn ystod eich amser yn y coleg. Darganfyddwch fwy yma.

Cyfrif Dysgu Personol

Os ydych chi dros 19 oed neu’n hŷn, mewn swydd sy’n ennill llai na £30,596* y flwyddyn ac eisiau cymryd y cam nesaf i gyflawni gyrfa arbennig, gall Cyfrif Dysgu Personol fod yn ddelfrydol i chi.

Ad-daliadau

Ar gyfer cyrsiau sydd wedi’u canslo, gallwch ohirio eich taliad tan y cynhelir cwrs yn y dyfodol neu wneud cais am ad-daliad (ffurflen ar-lein neu dogfen Word).