En

Trafnidiaeth a Theithio

Cynllun Cerdyn Bws Coleg Gwent – Teithio’n Gallach. Talu Llai!

Gwnewch gais nawr am eich Cerdyn Bws Coleg Gwent i arbed arian a helpu gwneud teithio i’r Coleg yn haws ac yn fwy hyblyg.

Mae Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru yn rhoi mynediad i docynnau sengl £1 neu docynnau dydd am £3, ond peidiwch â stopio yno – gallwn ni eich helpu i arbed mwy.

Rydym wedi cydweithio â chynghorau lleol, cwmnïau bysiau a Trafnidiaeth Cymru fel bod ein cerdyn Bws Coleg Gwent yn gweithio gyda Fy Ngherdyn Teithio i roi’r fargen orau bosibl i chi!

Mwy o lwybrau, mwy o ostyngiadau, mwy o hyblygrwydd. GWNEWCH GAIS AM CERDYN BWS COLEG GWENT a CHAEL MWY AM EICH ARIAN.

Mae Cerdyn Bws Coleg Gwent yn rhoi mwy i chi

Os ydych ond yn defnyddio eich Fy Ngherdyn Teithio, efallai y byddwch yn colli rhai manteision mawr:

£1 yn mynd â chi ymhellach! – Drwy hefyd ddefnyddio tocyn cerdyn bws Coleg Gwent, gallwch neidio ymlaen ac i ffwrdd unrhyw fws o fewn 90 munud am ddim ond £1. Angen newid bysiau i gyrraedd y coleg? Dim problem! Heb docyn bws Coleg Gwent, byddwch yn talu £1 am bob bws rydych yn ei gymryd, hyd yn oed os yw’n rhan o’r un daith. Mae hynny’n cynyddu’n gyflym!

Efallai fod teithio am ddim yn bosibl i chi! – Os ydych yn dysgwr sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, neu os ydych yn wynebu heriau ariannol ac yn byw mewn unrhyw un o’n pum ardal awdurdod lleol, efallai y gallwch gael teithio am ddim. Mae ffi weinyddol fechan fesul tymor yn berthnasol.

Mynediad gwarantedig i rwydwaith teithio Coleg Gwent sy’n cwmpasu’r pum campws.

Newydd ar gyfer 2025/26 – Dim ffioedd ymlaen llaw i gael mynediad at y tâl £1.

Sut i wneud cais am docyn bws Coleg Gwent

Cam 1: Ble bynnag rydych yn byw, dechreuwch drwy wneud cais am Fy Ngherdyn Teithio. Ni fydd eich cerdyn bws Coleg Gwent yn ddilys tan fod gennych eich Fy Ngherdyn Teithio.

Ewch i mytravelpass.tfw.wales/cy neu ffoniwch 0300 200 2233

Cam 2: Y camau nesaf yn dibynnu ar ble rydych yn byw:

Oed 16 i 18 ac yn byw yng Nghasnewydd, Torfaen, Caerffili neu Flaenau Gwent

Gwnewch gais i’ch awdurdod lleol am gymorth cerdyn bws (gweler manylion isod). Efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn gofyn i chi greu cyfrif gyda nhw cyn gwneud cais.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

www.blaenau-gwent.gov.uk | 01495 311556

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

www.caerphilly.gov.uk | 01443 864841

Cyngor Dinas Casnewydd

www.newport.gov.uk | 01633 656656

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

www.torfaen.gov.uk | 01495 766919

Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo gan eich awdurdod lleol, ewch i Wasanaethau Dysgwyr pan fyddwch yn cofrestru i gasglu eich tocyn bws.

Dysgwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili? Dim ond £10 fesul tymor fyddwch yn talu am y ffi weinyddol, a bydd teithio yn rhaddol am ddim diolch i gyllid y cyngor.

Oed 16 i 21 ac yn byw yn Sir Fynwy

Gwnewch gais am cerdyn bws Coleg Gwent wrth gofrestru, casglwch eich cerdyn bws am y tymor gan y Gwasanaethau Dysgwyr a dechreuwch deithio am £1 y daith.

Oed 19 i 21 ac yn byw yng Nghasnewydd, Torfaen, Caerffili neu Flaenau Gwent

Gwnewch gais am cerdyn bws Coleg Gwent wrth gofrestru, casglwch eich cerdyn bws am y tymor gan y Gwasanaethau Dysgwyr a dechreuwch deithio am £1 y daith.

Oed 16 i 18 ac wedi cael eich gwrthod cymorth trafnidiaeth gan eich awdurdod lleol

Gwnewch gais am cerdyn bws Coleg Gwent wrth gofrestru, casglwch eich cerdyn bws am y tymor gan y Gwasanaethau Dysgwyr a dechreuwch deithio am £1 y daith.

Oed dros 21

Gallwch ymuno o hyd! Talu £40 fesul tymor am docyn bws Coleg Gwent a theithio am £1.50 y daith.

Angen cymorth gyda’ch costau teithio?

Os yw arian yn brin, gallwch wneud cais am gymorth gan y Grŵp wrth Gefn Ariannol – efallai y byddwch yn gymwys i gael teithio am ddim (dim ond ffi tymhorol fach am y tocyn).

Mae ceisiadau ar gyfer 2025/26 bellach ar gael ar Borth CG

E-bost: financesupport@coleggwent.ac.uk

Ffôn: 01495 333777

Nodyn: Mae pob cymorth ariannol yn dibynnu ar gyllid sydd ar gael a chymhwyster. Nid oes dim yn cael ei warantu nes byddwch wedi cael cadarnhad ysgrifenedig.

Nodyn: pob cymorth ariannol yn dibynnu ar gyllid sydd ar gael a chymhwyster. Nid oes dim yn cael ei warantu nes byddwch wedi cael cadarnhad ysgrifenedig.

Eisiau gwirio amseroedd bysiau?

Ewch i  www.traveline.info neu ffoniwch 0871 200 2233 am y llwybrau a’r amserlenni diweddaraf.

Grantiau a Thrafnidiaeth Coleg Gwent
(Noder y diweddarwyd LCA i £40 yr wythnos ar gyfer 2025/26, a delir bob pythefnos)

Finance and transport staff on yellow background
play