Cymorth Dysgu

Three students chatting outside Torfaen Learning Zone

Ein darpariaeth cymorth cyffredinol

Rydym yma i helpu pawb i ddysgu a chyrraedd eu potensial llawn yn Coleg Gwent. Felly, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth cyffredinol i bob dysgwr.

Mae hyn yn debygol o ddiwallu anghenion y mwyafrif helaeth o’n dysgwyr, yn cynnwys rhai ag ystod o gyflyrau cyffredinol, penodol a/neu niwro-amrywiol a rhai sydd angen cymorth bugeiliol. Ond os oes gennych Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae cefnogaeth bellach ar gael hefyd.

Staff smiling


CG Support worker helping a learner.

Arlwy’r ddarpariaeth ddysgu

Canllawiau cymorth dysgu cyffredinol ac ychwanegol

Mae gan bob dysgwr fynediad at:

Fel myfyriwr llawn amser byddwch yn cael eich tiwtor eich hun a fydd yn cyfarfod â chi i adolygu eich datblygiad academaidd, darparu cymorth, cynnig arweiniad ac anogaeth i sicrhau eich bod yn cwblhau holl agweddau eich cwrs yn llwyddiannus. Yn ogystal â gofalu am eich iechyd a’ch llesiant cyffredinol a bod yn rhywun gallwch ymddiried a dibynnu arnynt, byddant hefyd yn eich paratoi ar gyfer eich camau nesaf yn y coleg, y brifysgol neu gyflogaeth.

Gall pob myfyriwr yn Coleg Gwent ddefnyddio ein llyfrgelloedd. Ym mhob canolfan mae yna lyfrau, cyfnodolion, e-lyfrau a DVDs, a gallwch ddefnyddio’r cyfrifiaduron neu gysylltu eich dyfais eich hun â’n Wi-Fi am ddim. Mae’r staff wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau a chael gafael ar wasanaethau eraill megis llungopïo, lamineiddio a rhwymo, ac mae arbenigwyr ar gael i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh yn ogystal â’ch sgiliau astudio, gan gynnwys deall aseiniadau, chwilio am wybodaeth a chwrdd â therfynau amser.

Mae cyfrifiadur pob myfyriwr wedi'i gyfarparu â meddalwedd hygyrchedd sy'n cynnwys:

  • Microsoft Immersive Reader - technoleg gynorthwyol testun i leferydd sydd ar gael yn Word, Teams, One Note, a chyn hir yn PowerPoint.
  • Apiau Technoleg Addysg fel Canvas a Wakelet – chwiliwch am eicon Immersive Reader.
  • Mynediad i eLyfrau technoleg gynorthwyol drwy Borth y Dysgwr – dangosfyrddau ‘Sut i’ a ‘Gwybodaeth’. Mae gan eLyfrau swyddogaeth ‘Darllen i mi’.

Gall myfyrwyr hefyd gyfarfod â'r hyfforddwr technoleg gynorthwyol i gael hyd yn oed mwy o opsiynau hygyrchedd, gan gynnwys:

  • MS Lens – Ap Testun-i-Leferydd sy'n darllen taflenni a llyfrau yn uchel.
  • Gauth AI – Cydymaith astudio sy'n rhannu gwaith a hafaliadau yn gamau sy'n haws i'w rheoli.
  • Headspace – Ap ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio sy'n tywys myfyrwyr trwy ymarferion i leihau straen a phryder, a gwella cwsg.
  • LeeLoo – Ap Cyfathrebu Ychwanegol ac amgen (AAC) a System Gyfathrebu Cyfnewid Lluniau (PECS) a gynlluniwyd i helpu unigolion di-eiriau, yn enwedig plant sydd ag awtistiaeth ac anhwylderau lleferydd eraill, i gyfathrebu ag eraill.

Dyma ddim ond ychydig o'r hyn a gynhigir gan yr hyfforddwr technoleg gynorthwyol a'r Coleg.

Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol yn ystod arholiadau – dywedwch wrth eich tiwtor os ydych wedi cael trefniadau mynediad ar gyfer arholiad o’r blaen (er nad yw trefniadau a ddyfernir yn yr ysgol yn cael eu rhoi yn awtomatig yn y coleg).

Gallai trefniadau mynediad fod yn amser ychwanegol, ystafell ar wahân, mynediad at ddarllenydd, ysgogwr, ysgrifennydd, defnyddio cyfrifiadur, neu gyfuniad o’r rhain neu argymhellion eraill.

I ddysgwyr sydd â materion gorsensitifrwydd, sy’n dioddef o orbryder neu’n ei chael yn anghyfforddus i ddefnyddio cyfleusterau ffreutur prysur, mae gan bob campws ardal dawel i’w defnyddio amser egwyl ac amser cinio.

Childhood Studies student smiling

Gofalwyr ifanc

Rydym yn deall pa mor anodd y gall fod i gael cydbwysedd rhwng eich addysg a gofalu am rywun. Os ydych chi’n ofalwr ifanc, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i ni am fod gennym ni lawer o gymorth ar gael yn y Coleg. Byddwn ni’n gwrando ar eich anghenion penodol ac yn cymryd hyn i ystyriaeth o ran hwyrni, galwadau ffôn, estyniadau ar gyfer eich gwaith ac amser allan os ydych chi’n teimlo’n orbryderus neu’n ypset.

Cymorth

Dolenni defnyddiol

Gall ddysgwyr gael cymorth a chefnogaeth bellach gyda’r canlynol: