Ein Coleg
Mwy o opsiynau. Mwy o gyfleoedd. Mwy o lwybrau tuag at eich cerrig milltir.
P'un a ydych chi'n gadael yr ysgol, yn newid gyrfa neu'n anelu'n uwch byth, Coleg Gwent yw'r lle i gymryd y cam cyntaf.
Gyda'r ystod ehangaf o gyrsiau lefel coleg yng Nghymru, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau o'r radd flaenaf a chymunedau croesawgar ar sawl safle ledled De-ddwyrain Cymru, dyma le cewch chi'r cyfleoedd a'r gefnogaeth i allu llwyddo.
Eich coleg o ddewis
Fel coleg gorau Cymru o ran dewis, rydym yn falch o'n cyfraddau cyflawniad uchel, tiwtoriaid arbenigol a chefnogaeth ragorol i fyfyrwyr. Gyda phum campws bywiog ledled De Ddwyrain Cymru, mae'r cwrs delfrydol yn agosach nag oeddech chi’n ei feddwl.
O hyfforddiant ymarferol i ragoriaeth academaidd, rydym yn cynnig cyfleoedd go iawn, llwybrau cynnydd clir a'r holl anogaeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo.
Yn bwysicach oll, rydym ni'n gymuned groesawgar a chynhwysol ble mae pawb yn perthyn. Felly, beth bynnag eich cefndir neu amcanion, rydym ni'n barod amdanoch.
7 mantais o astudio yn Coleg Gwent