En

Sut bydd y Coleg yn gwybod y bydd angen cymorth arnaf?

Os ydych chi'n meddwl y bydd angen cymorth arnoch yn y Coleg, rhowch wybod i ni:

Peidiwch â bod yn nerfus, mae yna lawer o gymorth ar gael.  Peidiwch ag oedi – y cynharaf y byddwn yn gwybod amdanoch chi, y cynharaf y gallwn eich cefnogi chi, felly cysylltwch â ni.

Mae sawl ffordd o gysylltu:

  • Gallwch anfon e-bost atom
  • Siaradwch â ni mewn Digwyddiad Agored.
  • Gofynnwch i Gydlynydd ADY eich ysgol neu Gynghorydd Gyrfa Cymru gysylltu â ni.
  • Dywedwch wrthym am eich anghenion ar eich ffurflen gais ar-lein.

Cynlluniau Datblygu Unigol

Os oes gennych Gynllun Datblygu Unigol (CDU) gofynnwch i’ch ysgol ein gwahodd i’ch adolygiad fel y gallwch ddweud wrthym am eich anghenion a gallwn drafod cefnogaeth.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc, eu teuluoedd, ysgolion, Gyrfa Cymru ac unrhyw bobl eraill sy’n eich cefnogi, i ddeall eich anghenion a chynllunio sut y dylai eich cefnogaeth edrych yn y coleg.