Os ydych chi’n gwybod yn union i ble rydych chi’n mynd, os oes gennych chi syniad yr hoffech chi adeiladu arno, neu os ydych chi’n gweithio popeth allan o hyd, mae mwy nag un llwybr tuag at eich dyfodol.
Yn Coleg Gwent, cewch ddewis eang o gyrsiau, addysgu arbenigol, profiadau ymarferol, a chymorth i’ch helpu chi i ddewis y llwybr sy’n gywir ar eich cyfer chi.
MAE MWY NAG UN FFORDD O GYRRAEDD BLE RYDYCH CHI EISIAU MYND IDDO.
DARGANFOD EICH LLE YN COLEG GWENT
Mae darganfod eich sbardun yn fwy na dewis cwrs. Mae’n ymwneud â dysgu mewn ffordd sy’n gweithio i chi, cwrdd â phobl newydd, magu eich hyder, a pharatoi ar gyfer beth bynnag sy’n dod nesaf.
Gan gynnig dewis eang o gyrsiau ar draws pum campws, tiwtoriaid profiadol, cyfleusterau arbenigol, dysgu ymarferol, a chymorth pan fydd ei angen arnoch chi, bydd gennych chi gyfle i wneud eich amser yn Coleg Gwent eich amser chi.
MAEN NHW WEDI DARGANFOD EU SBARDUN. GWELD I BLE Y GALLAI EICH UN CHI FYND Â CHI.
Nid oes un llwybr unigol trwy’r coleg. Dewch i gwrdd â dysgwyr sydd wedi cyrraedd gan feddu ar gynlluniau, diddordebau, ac uchelgeisiau gwahanol a gweld yr hyn y gwnaethon nhw ei darganfod ar hyd y ffordd.
Mae’r tiwtoriaid yn wir yn gefnogol ac rwy’n teimlo’n hyderus nawr wrth ddefnyddio fy sgiliau ar y safle.
Rhoddodd Coleg Gwent yr hyder a’r gefnogaeth i mi gyflwyno cais i brifysgol flaenllaw.
Profais drafferthion â gorbryder cyn dod i’r coleg ond helpodd Coleg Gwent i mi deimlo’n hyderus a fy mod i wedi fy nghefnogi.
Rwyf wedi teimlo bod croeso mawr i mi yn Coleg Gwent. Rwyf eisoes wedi gwneud ffrindiau ac mae’r athrawon yn hyfryd iawn.
Rwy’n dwlu ar bob agwedd ar fy nghwrs. Rwyf wedi datblygu hyder, gwaith tîm, a sgiliau rwy’n eu defnyddio bob dydd.
Trwy gymryd amser i ffwrdd, sylweddolais beth roeddwn i ei eisiau. Trwy ddod yn ôl, sylweddolais nid yw hi byth yn rhy hwyr.
DIGWYDDIADAU AGORED
PROFWCH I’CH HUN
Mae Digwyddiad Agored yn gyfle i chi archwilio eich opsiynau, cwrdd â thiwtoriaid a dysgwyr, profi ein cyfleusterau, a chael ymdeimlad o le y gallech chi berthyn.
Os ydych chi’n gwybod yn union beth rydych chi’n dymuno ei astudio neu os ydych chi’n penderfynu o hyd, dewch i weld yr hyn y gallai Coleg Gwent ei chynnig i chi.
- 11 TACH 2026 5yp - 7.30yp
- 26 ION 2027 5yp - 7.30yp
- 17 MAW 2027 5yp - 7.30yp
- 21 MEH 2027 5yp - 7.30yp
Does dim rhaid i ti fod wedi gweithio popeth allan.
Gwent