Iechyd, Llesiant ac Ysbrydolrwydd
Mae eich diogelwch a’ch llesiant yn bwysig iawn i ni yn y coleg. Felly byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn ddiogel ar y campws ac ar leoliadau gwaith, yn eich amddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod, bwlio ac aflonyddu, a byddwn yn darparu cymorth ichi gydag anawsterau personol.
Gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau cwnsela a chaplaniaeth cyfrinachol a gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau allanol a all helpu. Os hoffech wybod mwy, siaradwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar eich campws.
Sioeau Hybu Iechyd Teithiol
Er mwyn eich helpu i aros yn iach, mae sefydliadau lleol a chenedlaethol yn ymweld â'r campysau yn rheolaidd i gynnig samplau, cyngor a gwybodaeth ar faterion megis rhoi'r gorau i ysmygu, bwyta'n iach, ffitrwydd ac ymarfer corff. Felly os ydych chi eisiau creu smwddi ar feic, profi eich pwysedd gwaed neu ddysgu mwy am therapïau cyfannol, cadwch lygad allan am fanylion pan fyddwch chi'n cofrestru.
Bwyta'n Iach
Whether you already eat healthily or want to know how to, the team who run our campus catering can help. As well as hot and cold refreshments, their menus always include healthy options and their Student Survival Guide has tips on how to adopt a healthy lifestyle at college.
Cwnsela
Yn hytrach na dweud wrthych beth i’w wneud, mae ein cwnselwyr yno i’ch helpu a’ch cefnogi i wneud eich penderfyniadau eich hun yn gwbl gyfrinachol – oni bai eich bod yn codi pryder am ddiogelu, y mae’n rhaid i’ch cwnselydd ei adrodd i arweinydd diogelu’r campws. Gofynwch i unrhyw aelod o dîm Cymorth CG am ragor o wybodaeth.
Cymorth Iechyd Meddw
Togetherall yw ein cymuned ar-lein am ddim ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl, gyda mynediad 24/7 at arbenigwyr wedi'u hyfforddi, arbenigedd clinigol a chefnogaeth gan gyfoedion mewn amgylchedd ar-lein diogel. Mae'n anelu at wella llesiant meddyliol mewn ffordd gynhwysol sy'n rhydd o feirniadaeth drwy gynnig lle diogel i siarad, rhannu profiadau a chefnogi eraill. Mae Togetherall yn eich helpu i reoli cyflyrau iechyd meddwl, cymryd rheolaeth, teimlo'n well a chynnal llesiant meddyliol cadarnhaol yn ystod eich amser yn y coleg. Darganfyddwch fwy yma
Cefnogaeth LGBTQ+
Rydym yn codi ymwybyddiaeth ar draws y coleg ac yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant fel cynghreiriaid i’r gymuned LGBTQ+. Gall ein tîm cymorth hefyd gynnig mentora a chymorth i unrhyw un sydd eisiau sefydlu grŵp diddordeb arbennig ar gyfer y gymuned LGBTQ+.
Yn y coleg, rydym yn cydnabod bod cred yn ddewis personol a ddylai gael ei pharchu a’i derbyn. Ein nod yw meithrin amgylchedd croesawgar i bawb, os oes gennych chi ffydd bersonol ai beidio.
Mae gennym ni ardaloedd aml-ffydd ar bob campws sydd ar agor i bawb. Mae’r ardaloedd wedi’u dylunio i fod yn lleoedd tawel a heddychlon ar gyfer gweddïo, myfyrdod neu i gael ychydig o amser tawel i’ch hun.
Ar ein campws Casnewydd a’n campws Parth Dysgu Torfaen mae hefyd gennym ni gyfleusterau ymolchi i’w gwneud yn haws i ddysgywr o ffydd benodol baratoi ar gyfer gweddïo.