Gyrfaoedd a swyddi
Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwych i’w fyfyrwyr, mae Coleg Gwent hefyd yn gwneud hynny i’w staff. Mae gweithio i ni yn foddhaus, cyffrous a difyr, wrth i chi helpu i siapio dyfodol pobl ifanc.
Fel aelod o’n staff gwerthfawr, byddech yn mwynhau popeth sydd gan Coleg Gwent i’w gynnig:
- Cyflog cystadleuol o fewn y sector Addysg Bellach
- Hawl gwyliau blynyddol hael – isafswm o 28 diwrnod yn ogystal â gwyliau banc
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Gynllun Pensiwn Athrawon
- Cyfleoedd gyrfa a datblygiad personol rhagorol
- Dysgu am ddim ar gyrsiau a ariennir gan yr Adran Addysg a Sgiliau
- Cyfle i ddysgu Cymraeg
- Mynediad at ddau gynllun gofal iechyd • Rhaglen Cymorth i Staff am ddim
- Mynediad at Daleb Gofal Plant a Chynlluniau Beicio i’r Gwaith
- Darpariaeth iechyd galwedigaethol
- Gostyngiadau ar aelodaeth o ganolfan hamdden
- Parcio am ddim ar ein prif gampysau
Rydym wedi ymrwymo i gynnal cymuned barchus lle gall dysgwyr a staff ddysgu, datblygu a thyfu mewn lleoliad urddasol a diogel.
Golyga hyn gwneud yn siŵr bod:
- gan bawb y cymorth sy’n ofynnol i gyflawni hyd eithaf eu gallu
- pawb yn mwynhau eu hamser yn y Coleg, gyda neb yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, oedran, ffydd neu gred, statws mamolaeth/beichiogrwydd, ffordd o fyw, cefndir cymdeithasol, gwlad enedigol, iaith neu unrhyw ddosbarthiad arall o’n cymdeithas
Rydym wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol – mewn geiriau eraill, rhoi cyfle i bob unigolyn gyflawni ei botensial llawn.
Rydym wedi ymrwymo i herio’r gwahaniaethu y mae rhai grwpiau yn ei brofi mewn cymdeithas, beth bynnag ei ffurf, gan wneud yn siŵr bod cydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.
Gyda’n gilydd, rydym yn anelu at fod yn gymuned oddefgar lle mae pawb yn derbyn y gwahaniaethau rhwng unigolion ac yn dathlu’r buddion ddaw i’r coleg o amrywiaeth.
Mae ein swyddi gwag ar hyn o bryd yn cynnwys Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chanllaw ar Geisiadau Datgelu.
I wneud cais ar-lein, cliciwch ar y botwm isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r holl adrannau a defnyddiwch hwy i ddarparu gwybodaeth i ni am sut mae eich sgiliau, gwybodaeth, profiad ac agwedd yn cyd-fynd â manyleb person y swydd. Yna cliciwch ‘Cyflwyno cais’ i gwblhau’r broses.
Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost neu dros y ffôn. O ganlyniad i’r lefel o geisiadau a dderbyniwn, fel rhan o’n polisi ni fyddwn yn rhoi gwybod i chi os na fuoch yn llwyddiannus yn y broses llunio rhestr fer. Bydd ein tîm AD yn barod i helpu gydag unrhyw ymholiadau, neu gyda chwblhau eich ffurflen gais. Gellir cysylltu â nhw ar vacancies@coleggwent.ac.uk
Rydym yn cymryd diogelu data personol o ddifrif, felly bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych ar eich ffurflen gais yn cael ei defnyddio i brosesu eich cais o dan sail gyfreithiol cyflawni contract â chi. Ni chedwir ceisiadau aflwyddiannus am fwy na chwe mis. Mae’n bosibl y cedwir ceisiadau llwyddiannus am gyfnod hirach. Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych ychydig o hawliau i’r data yr ydym yn ei brosesu amdanoch.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein hysbysiad preifatrwydd llawn.
Swyddi gwag
Mae gennym bum campws yn ne-ddwyrain Cymru yn Crosskeys, Casnewydd, Cwmbrân, Brynbuga a Glyn Ebwy. Cliciwch ar y ddolen i weld union leoliad y swydd wag.