




Parth Dysgu Torfaen
Ein campws pwrpasol gwerth £24 miliwn yng nghanol Cwmbrân yw’r cartref i bob addysg ôl-16 ym mwrdeistref Torfaen.
Mae’r Parth Dysgu newydd, sydd drws nesaf i Morrisons, yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf ac yn hawdd ei gyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Beth allaf i ei astudio ym Mharth Dysgu Torfaen?
Mae digonedd o ddewis! Gyda phynciau Safon Uwch ar gael, gan gynnwys Llenyddiaeth Saesneg, Sbaeneg a Bagloriaeth Cymru, cymhwyster galwedigaethol a gradd sylfaen; yn bendant, mae rhywbeth yma at ddant pawb.
Cymerwch olwg ar y cyrsiau sydd ar gael
Cymorth
Mae gan bob un o’n dysgwyr Diwtor Personol a mynediad i ystod eang o wasanaethau cymorth er mwyn sicrhau bod pawb yn cyrraedd eu potensial llawn.
Bydd dysgwyr Safon Uwch neu Lefel 3 yn astudio Bagloriaeth Cymru a bydd gan bob disgybl fynediad i raglenni cyfoethogi a chyfleoedd profiad gwaith.
Mae cymorth sgiliau hefyd ar gael er mwyn datblygu llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol lefel uwch y myfyrwyr.
Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ym Mharth Dysgu Torfaen
Mae gan Coleg Gwent brofiad o gynnig cymorth i bawb, helpu pob dysgwr i gyflawni eu potensial llawn waeth beth yw eu hanghenion dysgu ychwanegol. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael.
Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion Torfaen er mwyn cadw mewn cysylltiad â disgyblion, rhieni a staff ar gymorth pontio.
Gallwch hefyd lansio ein llwyfan digwyddiad agored rhithwir i ddod o hyd i wybodaeth ynghylch yr hyn y mae Parth Dysgu Torfaen yn ei gynnig.
Mae ceisiadau yn awr ar agor. A ydych chi wedi gwneud cais eto?
Dilynwch ni ar Instagram, Facebook a Twitter am ddiweddariadau.
Coleg Gwent
Parth Dysgu Torfaen
Heol Dewi Sant
Cwmbrân
Torfaen
NP44 1DF
Mae cyfleusterau Parth Dysgu Torfaen yn cynnwys:
Taith Rithwir 360

Deuthum i’r coleg i gael y sgiliau sydd eu hangen arnaf ar gyfer y fasnach; yr hyn sy’n wych am Goleg Gwent yw’r lefel o gefnogaeth a gewch a sut cewch eich trin fel oedolyn.. Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio cael fy nghyflogi gan gwmni adeiladu sydd ag enw da, gyda’r gobaith o dechrau cwmni fy hyn. Llewys Graham Gwaith Brics Lefel 2.
