En

Llyfrgelloedd

Mae gan Goleg Gwent pum llyfrgell sy’n cynnig y cymorth, adnoddau a chyfleoedd sydd eu hangen arnoch i fagu sgiliau newydd a symud ymlaen gyda’ch astudiaethau.

Mae gan bob llyfrgell:

  • Cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol i’ch helpu gyda gwaith ymchwil a chwblhau eich aseiniadau, gan gynnwys peiriannau modern ar gyfer myfyrwyr peirianneg, graffeg a gemau cyfrifiadurol.
  • Ystod eang o lyfrau ac e-lyfrau ar gyfer pob cwrs
  • Mynediad i gyfnodolion academaidd ar-lein ac adnoddau sy’n mynd i’r afael ag ystod eang o feysydd pwnc
  • Casgliad o ffuglen fodern a ffilmiau
  • Mynediad i Wi-Fi
  • Argraffu mewn lliw
  • Llu o wasanaethau fel rhwymo eich aseiniadau, lamineiddio, llungopïo a sganio
  • Swyddog Cymorth yn y llyfrgell sy’n cynnig ystod eang o gefnogaeth academaidd
  • Tîm bychan o Ymgynghorwyr Llyfrgell a all eich helpu i ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano ac i ddefnyddio’r cyfrifiaduron a’r meddalwedd sydd ar gael

Mae ein llyfrgelloedd hefyd yn cynnig platfform ar-lein 24/7 y gallwch gael mynediad ato o unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r we, sy’n eich caniatáu i adnewyddu eich adnoddau a chadw adnoddau eraill mewn unrhyw un o’r llyfrgelloedd, gan gynnwys:

  • Dros 34,000 o lyfrau a dros 9,000 o e-Lyfrau
  • Anatomeg a Ffisioleg Ar-lein
  • Digimap
  • Digital Theatre Plus
  • elawStudent
  • History Today
  • Issues Online
  • Dros 30 o gyfnodolion digidol gan gynnwys llu o deitlau ar gyfer nyrsys a nyrsys milfeddygol