En

Gwerthoedd Craidd

Gwerthoedd Craidd

Ein Gwerthoedd Craidd

Mae ein gwerthoedd yn bwysig iawn i ni. Maent yn amlinellu’r hyn yr ydym yn sefyll drosto, sut ydym yn ymddwyn a’r pethau sy’n bwysig i ni.

Fel myfyriwr yng Ngholeg Gwent, mae’n bwysig eich bod chi’n cynnal y gwerthoedd hyn hefyd, tra byddwch chi yma, a gobeithio y tu hwnt i’ch amser gyda ni.

Parch at Bawb

Beth ddylech chi ei wneud…

  • Ceisio gwneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cynnwys a bod eu llais yn cael ei glywed ym mhob rhyngweithiad â chyd-weithwyr a dysgwyr
  • Gwrando ar gwestiynau ac ymateb heb ragfarn
  • Bod yn ymwybodol o, ac yn gyfrifol am, sut mae eich agwedd a’ch emosiynau yn gallu cael effaith ar bobl eraill
  • Cymryd amser i wrando ac ymdrechu i ddeall barn pobl eraill

Beth na ddylech ei wneud

  • Neidio i gasgliadau a gwneud rhagdybiaethau
  • Mynegi barn anadeiladol, negyddol neu bersonol am bobl eraill a’u barn
  • Dangos ffafriaeth
  • Annog neu gymryd rhan mewn hel clecs

Yn cael ein gyrru gan ddatrysiadau

Beth ddylech chi ei wneud…

  • Cofleidio gweledigaeth a strategaeth y Coleg
  • Wynebu pob her yn gadarnhaol
  • Ymgysylltu â phawb i ganfod atebion
  • Mynd i’r afael â phroblemau ac ysgwyddo cyfrifoldeb

Beth na ddylech ei wneud

  • Anwybyddu problemau a gobeithio y byddant yn diflannu
  • Pasio’r bai i eraill
  • Derbyn bod yr ail orau yn iawn
  • Cau eich meddwl i syniadau gan bobl eraill

Y Dysgwr yn Gyntaf Bob Tro

Beth ddylech chi ei wneud…

  • Trin pob dysgwr gyda pharch ac fel unigolion
  • Ystyried yr effaith ar ddysgwyr wrth wneud pob penderfyniad
  • Cynnwys dysgwyr yn y penderfyniadau rydych yn eu gwneud
  • Gwerthfawrogi safbwynt ein dysgwyr – cydymdeimlo â nhw

Beth na ddylech ei wneud

  • Beio dysgwyr am y pethau rydym ni’n gyfrifol amdanynt
  • Blaenoriaethu anghenion gweithredol cyn anghenion y dysgwyr
  • Ymgymryd ag agwedd sydd ddim yn canolbwyntio ar y dysgwyr
  • Peidio â gwrando ar, a gweithredu ar, adborth y dysgwyr

Gweithredu'n Onest

Beth ddylech chi ei wneud…

  • Bod yn deg, yn onest ac yn dryloyw
  • Bod yn batrwm i eraill
  • Delio â sgyrsiau a sefyllfaoedd anodd
  • Bod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy

Beth na ddylech ei wneud

  • Ymroi i ragfarn neu ffafriaeth
  • Anwybyddu sylwadau ac ymddygiad amhriodol gan eraill
  • Methu â gweithredu yn unol â’n holl werthoedd, hyd yn oed pan fo hynny’n anodd
  • Beio pobl eraill am bethau sy’n mynd o chwith