En

Llywodraethiant

Bwrdd Corfforaeth

Gelwir corff llywodraethu Coleg Gwent yn Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Gwent. Gan amlaf, cyfeirir ato fel ‘Y Bwrdd’.

Mae’r Bwrdd yn cynnwys 22 Llywodraethwr. Mae hyn yn cynnwys y Pennaeth/Prif Weithredwr, dau aelod o staff a tri fyfyriwr (wedi eu hethol gan eu cyfoedion). Mae’r holl Lywodraethwyr eraill yn wirfoddolwyr. Mae Llywodraethwyr yn cael eu recriwtio ar yr amod eu bod yn cyflwyno amrywiaeth o sgiliau a phrofiad i’r Bwrdd, sydd eu hangen ar gyfer goruchwylio rhediad y Coleg.

Diddordeb mewn bod yn Llywodraethwr?

Gweler ein Canllaw i ymuno â ni fel Llywodraethwr Coleg Gwent.

Learners using computers

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn Coleg Gwent, mae ein gwerthoedd craidd yn hyrwyddo parch a goddefgarwch i bawb. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein coleg yn fan y bydd pawb, yn staff ac yn ddysgwyr, yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu.

Gweler ein datganiad amrywiaeth bwrd.

Cyfrifoldebau’r Bwrdd

Mae’r Bwrdd yn gweithio’n agos gyda’r uwch dîm rheoli ac yn gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’, gan gymryd trosolwg strategol a gofyn cwestiynau heriol. Mae’r Llywodraethwyr, ar y cyd, yn gyfrifol am:

  • Penderfynu ar gymeriad addysgol, gweledigaeth ac amcan Coleg Gwent.
  • Goruchwylio rheolaeth gadarn y Coleg, ac ansawdd y gwasanaeth mae’n ei ddarparu.
  • Cymeradwyo’r gyllideb flynyddol a sicrhau cynaliadwyedd ariannol.
  • Goruchwylio’r defnydd cywir o gyllid cyhoeddus a defnydd effeithlon o adnoddau.
  • Gosod fframwaith ar gyfer tâl ac amodau’r staff.
  • Recriwtio, rheolaeth perfformiad a diswyddiad deiliaid swyddi uwch.

Pwyllgorau

Er mwyn cefnogi ei waith, mae’r Bwrdd yn gweithredu nifer o is-bwyllgorau:

Mae’r Pwyllgor Archwilio yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth risg a phrosesau rheoli mewnol y Coleg, a monitro gwaith y gwasanaeth archwilio.

Mae’r Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd yn goruchwylio datblygiad y cwricwlwm, gwasanaethau dysgwyr ac yn monitro ansawdd a’r broses hunanasesiad.

Mae’r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau yn goruchwylio seilwaith y Coleg yn cynnwys Adnoddau Dynol, cyllid, technoleg a chynllunio ystadau ac yn monitro datblygiad prosiectau seilwaith sylweddol.

Mae’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn cyfarfod yn flynyddol i ystyried perfformiad, tâl ac amodau’r deiliaid swydd uwch (Pennaeth/Prif weithredwr, 2 Ddirprwy Benaethiaid a’r Swyddog Llywodraethu).

Mae’r Pwyllgor Llywodraetu ac Aelodeth yn gyfrifol am oruchwylio recriwtio Llywodraethwyr a monitro amrywiaeth a phroffil sgiliau’r Bwrdd, ynghyd â hyfforddiant a datblygiad y Llywodraethwr.#

Mae’r Cylch Gorchwyl ar gyfer pob un o’r pwyllgorau hyn ar gael yn y Rheolau Sefydlog.

Dogfennau corfforaethol

Darganfyddwch fwy/cysylltwch â ni

Am fwy o wybodaeth ar waith y Bwrdd, i wneud cais am gopïau papurau nad ydynt yn gyfrinachol neu i fynegi diddordeb mewn dod yn Llywodraethwr, cysylltwch â’r Swyddog Llywodraethu:

Marie Carter
Pencadlys Coleg Gwent
Y Rhadyr
Brynbuga
Sir Fynwy
NP15 1XJ

E-bost: marie.carter@coleggwent.ac.uk
Ffôn:      01495 333519

Dylid gyrru holl ohebiaeth er sylw Cadeirydd y Llywodraeth i’r cyfeiriad yma.