Llywodraethiant Pwy ydym ni

Three staff talking at governance meeting

Bwrdd Corfforaeth

Gadeirydd - Sue Ball

Mae Sue wedi bod yn Llywodraethwr ers 2018 a gwasanaethodd fel Is-gadeirydd o 2020 nes i’r Cadeirydd blaenorol ymddeol ym mis Gorffennaf 2025. Mae hi’n angerddol am bwysigrwydd addysg, hyfforddiant a chydweithio effeithiol i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau cyflogwyr. Wedi iddi ymddeol o’i rôl fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae hi’n parhau i ymgymryd â gwaith ymgynghori ar gyfer y Bwrdd Iechyd ac mae’n cadeirio gwrandawiadau addasrwydd i weithio ar gyfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Vice Chair – Chris Freegard OBE

Ymunodd Chris â Bwrdd Coleg Gwent yn 2010 gan wasanaethu am ddau dymor. Yn dilyn newid mewn amgylchiadau, ail-ymunodd â’r Bwrdd yn 2020. Ymddeolodd o’i swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Dinas Casnewydd yn 2009 ac mae wedi dal nifer o rolau ar Fyrddau ers hynny, gan gynnwys gwasanaethu fel Ymddiriedolwr Kaleidoscope, elusen camddefnyddio sylweddau a gwasanaethu fel Llywodraethwr Prifysgol De Cymru tan fis Gorffennaf 2020. Ar hyn o bryd, Chris yw Cadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Bwrdd.

Pennaeth/Prif Weithredwr - Nicola Gamlin

Dechreuodd Nikki yn ei rôl fel Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gwent ym mis Medi 2024, gan wasanaethu’n flaenorol ers 16 o flynyddoedd fel Is-bennaeth/Dirprwy Bennaeth â chyfrifoldeb am y Cwricwlwm ac Ansawdd. Mae ei gyrfa 30 o flynyddoedd ym maes Addysg Bellach wedi cynnwys dros 20 o flynyddoedd mewn rolau uwch-arweinyddiaeth yn ogystal â rolau’n addysgu cyfrifiadureg, TG, busnes a mathemateg ar lefelau gwahanol. Mae hi hefyd yn Arolygydd Cymheiriaid Estyn.

Leanne Baker

Mae Leanne yn uwch-arweinydd Adnoddau Dynol gan feddu ar dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n ymroddedig i yrru newid diwylliannol cadarnhaol yn ei flaen, hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ac adeiladu galluedd sefydliadol. Wedi’i sbarduno gan ei phrofiadau ei hun, mae Leanne yn angerddol am ehangu cyfranogiad ac mynediad at hyfforddiant ac addysg. Mae hefyd yn gwasanaethau fel Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol gwirfoddol yn Neuadd Goffa Trecelyn.

Anthony Basnett

Mae gan Baz dros 30 mlynedd o brofiad ym maes peirianneg electronig a bu’n gwasanaethu am 17 mlynedd yn Lluoedd Ei Fawrhydi. Mae e’n Gyfarwyddwr a Pheiriannydd Datrysiadau ar gyfer cwmni technoleg ddigidol mawr yn dilyn nifer o flynyddoedd fel Pennaeth Systemau Peirianneg yn CISCO UK. Mae hefyd yn eistedd ar Fwrdd y Ganolfan Arddangos Rhwydwaith Pŵer, sy’n rhan o Brifysgol Strathclyde. Mae Baz yn Gadeirydd Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau y Bwrdd.

Moawia Bin-Sufyan

Mae Moawia yn gweithio ym maes buddsoddiadau a datblygiad eiddo, ochr yn ochr â hynny, mae’n cyflawni nifer o rolau cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol. Mae’r rolau hyn yn cynnwys monitro gwasanaethau iechyd a chyflyrau carchardai a charcharorion a chynghori ynglŷn ag amrywiaeth a chynhwysiant. Mae Moawia hefyd yn Ynad Heddwch ac yn Uwch Aelod Annibynnol o’r Panel ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a Sifil yng Nghymru. Mae’n Lifreiwr yng Nghwmni Anrhydeddus yr Addysgwyr ac mae wedi derbyn gwobr Rhyddid Dinas Llundain.

James Bird

Ymunodd James â’r Bwrdd ym mis Ionawr 2025. Mae’n Gyfrifydd Siartredig ac mae wedi gweithio mewn rolau uwch ym meysydd Cyllid a Gweithrediadau yn y sectorau gweithgynhyrchu a logisteg. Yn ei rôl ddiweddaraf, datblygodd angerdd am weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a cholegau i ddatblygu dawn fewnol. Mae James bellach wedi ymddeol ac mae’n awyddus i ddefnyddio ei sgiliau a’i brofiad er budd Coleg Gwent.

Elizabeth Brimble

Liz yw’r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Diogelu. Enillodd Liz ei chymwysterau yn y gweithle ar ôl gadael yr ysgol yn un ar bymtheg oed, ac mae hi wedi ymrwymo i bwysigrwydd cynnig dewis mewn addysg a hyfforddiant. Gweithiodd yn y sector gwasanaethau ariannol, ac mae wedi treulio amser fel swyddog sifil gyda Chanolfan Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Cyn iddi ymddeol, gweithiodd Liz yng Nghyngor y Gweithlu Addysg fel Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru ac Addasrwydd i Ymarfer.

Andrew Clark

Mae Andrew yn cynnig dealltwriaeth fanwl o’r sector addysg bellach yng Nghymru i’r Bwrdd. Gan feddu ar gefndir ym maes cyllid a chyfrifyddu, roedd ganddo yrfa hir gyda Llywodraeth Cymru lle’r oedd ei rolau diweddaraf yn cynnwys arwain ar gyflogadwyedd, gyrfaoedd a pholisi addysg bellach. Andrew yw’r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Llywodraethu Gwybodaeth.

Yr Athro Wendy Dearing

Gan ddechrau ei gyrfa hir a diddorol ym maes nyrsio, symudodd Wendy i rolau ym meysydd addysgu a rheolaeth cyn datblygu diddordeb arbennig ym maes gwybodeg iechyd. Enillodd rolau uwch-arweinyddiaeth yn y GIG a oedd yn canolbwyntio ar foderneiddio a digideiddio cyflenwi a hyfforddiant ym maes gofal iechyd. Wedi iddi wasanaethu fel Deon Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae Wendy yn parhau i weithio yn y Brifysgol fel Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Arloesedd Cymdeithasol. Mae hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Ffederasiwn Gweithwyr Proffesiynol Gwybodeg a Bwrdd Cyfleuster Iechyd a Gofal Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain.

Delyth Evans

Mae Delyth yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf a dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr newyddion a materion cyfoes. Aeth ymlaen i weithio fel ysgrifennwr areithiau gwleidyddol ac, yn hwyrach, gwasanaethodd fel Aelod Cynulliad am dair blynedd. Mae Delyth wedi gweithredu mewn rôl Prif Weithredwr ar gyfer dwy elusen ac fel ymgynghorydd polisi a strategaeth. Mae hefyd yn gwasanaethu ar Fwrdd Chwaraeon Cymru, yr Urdd a’r Sefydliad Alacrity, sef elusen addysg sy’n darparu hyfforddiant entrepreneuriaeth ar gyfer graddedigion ifanc mewn technoleg. Yn 2025, penodwyd Delyth yn Gadeirydd S4C.

Jane Eyres

Etholwyd Jane fel Llywodraethwr Staff Addysgu ym mis Rhagfyr 2025. Mae wedi gweithio i’r Coleg ers 2024 fel darlithydd Safon Uwch. Wedi iddi ddechrau ei gyrfa ym maes busnes, symudodd Jane i fyd addysg yn 2009 ac mae ganddi yrfa amrywiol sydd wedi cynnwys rolau addysgu a hyfforddiant mewn colegau, prifysgolion, elusennau a byd busnes.

Bailjit Gill

Bal yw’r Uwch-reolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Nhŷ’r Cwmnïau. Mae wedi gweithio ym maes cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol ers dros 23 o flynyddoedd, gan gynnwys rolau yn Llywodraeth Cymru, Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Mae’n byw yng Nghasnewydd ac, yn flaenorol, bu’n Llywodraethwr Ysgol ac yn Ymddiriedolwr o raglen Pobl yn Gyntaf Torfaen. Bal yw’r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Andy Johns

Ymunodd Andy â’r Bwrdd ym mis Ionawr 2025. Mae’n meddu ar dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn y sector addysg yng Nghymru, yn ddiweddarach, fel Is-bennaeth (Cwricwlwm ac Ansawdd) mewn coleg cyfagos. Mae Andy bellach wedi ymddeol ac mae’n eistedd ar Baneli Addasrwydd i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg ac mae’n Aelod o Gyd-bwyllgor Archwilio Heddlu Gwent. Mae e hefyd yn gwirfoddoli gyda nifer o sefydliadau gan gynnwys Tŷ Hafan a Run4Wales.

Darren Jones

Mae Darren yn uwch-arweinydd yn y Brifysgol Agored yng Nghymru lle y mae’n gyfrifol am bartneriaethau strategol a chynllunio busnes. Mae ei yrfa wedi canolbwyntio ar ehangu cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes ac ehangu mynediad ar gyfer unigolion a chymunedau. Darren yw Cadeirydd y Grŵp Llywio Strategol ar gyfer Mynediad Addysg Bellach i Addysg Uwch yng Nghymru ac mae’n gwasanaethu ar nifer o gyrff eraill.

Boyd Paynter

Etholwyd Boyd i wasanaethu fel Myfyriwr-Lywodraethwr dros Addysg Bellach ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-26. Mae e’n astudio ar gyrsiau Safon Uwch ym Mharth Dysgu Torfaen ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth. Mae Boyd yn angerddol am sicrhau cynrychiolaeth gryf gan y gymuned a gan bobl ifanc. Caiff hyn ei adlewyrchu gan ei weithredu ei hun ac, ar hyn o bryd, mae’n gwasanaethu fel Dirprwy Arweinydd Fforwm Ieuenctid Torfaen ac fel aelod o Bwyllgor Cyllidebu Cymdeithas Wirfoddol Torfaen.

John Phelps

Cychwynnodd John ei yrfa fel peiriannydd prentis gan weithio yn y diwydiant cyn ail-hyfforddi fel athro. Bu’n gweithio ym maes addysg am dros ddeng mlynedd ar hugain a threuliodd lawer o’r amser hwnnw yn y sector addysg bellach. Roedd yn Is-bennaeth yn Coleg y Cymoedd am ddeng mlynedd, gyda chyfrifoldeb am y wricwlwm a datblygu ansawdd. Ers ymddeol, mae wedi gweithio fel ymgynghorydd a chynghorydd addysgol hunangyflogedig. John yw’r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Iechyd a Diogelwch.

Tim Rathbone

Ymunodd Tim â’r Bwrdd ym mis Ebrill 2024. Mae wedi cwblhau cylch llawn ar ôl dechrau ei yrfa fel Prentis Trydanwr yng Nghampws Pont-y-pŵl y coleg yn y 1980au. Yn Beiriannydd Siartredig, fe ymddeolodd Tim yn ddiweddar o’i rôl fel Uwch-Bartner a Chyfarwyddwr mewn cwmni Peirianneg Ymgynghorol lle bu’n gweithio ers dros 30 o flynyddoedd. Mae bellach yn awyddus i gyfrannu at lwyddiant Coleg Gwent. Mae e’n Aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ac mae ganddo ddiddordeb cryf mewn cynaliadwyedd. Tim yw’r Llywodraethwr Cyswllt ar gyfer Datblygu’r Ystâd a Datgarboneiddio.

Lizzie Swaffield

Lizzie yw Cadeirydd y Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd. Mae hi’n siarad Cymraeg ac yn dod â phrofiad helaeth o’r sector cyhoeddus ehangach i’r Bwrdd, yn benodol, mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth. Ar hyn o bryd mae’n gweithio i elusen addysgol ac, yn flaenorol, mae wedi dal rolau gyda Cymwysterau Cymru, Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant, Rhaglen Addysg Blaenau’r Cymoedd a llywodraeth leol.

Michelle Wall

Yn dilyn gyrfa dros 30 o flynyddoedd ym maes arweinyddiaeth ariannol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, ymddeolodd Michelle o’i rôl fel Cyfarwyddwr Cyllid a Masnachol yn Nhŷ’r Cwmnïau yn ddiweddar (lle y bu hefyd yn gwasanaethau fel Hyrwyddwr Gweithredol dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac arweinydd y rhwydwaith anableddau). Mae’n angerddol am rym trawsnewidiol addysg ac, yn flaenorol, gwasanaethodd fel Llywodraethwr Ysgol. Mae Michelle hefyd yn Gadeirydd Cyngor Cymru i’r Deillion ac mae’n gwasanaethu fel Ymddiriedolwr Operasonic, sef elusen gerddoriaeth wedi’i lleoli yng Nghasnewydd.

Joanne Weaver

Etholwyd Jo fel Llywodraethwr Staff Cymorth Busnes ym mis Rhagfyr 2024. Mae hi wedi gweithio i Coleg Gwent ers dros 17 o flynyddoedd ac, yn ei rol bresennol fel Rheolwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid, mae’n gweithio’n agos gyda thimau ar draws y coleg i gyflenwi gwasanaethau allweddol ac i gefnogi digwyddiadau’r coleg. Mae Jo yn gyd-berchennog ar gaffi llwyddiannus a busnes arlwyo ac mae’n Rheolwr Tîm ac yn aelod pwyllgor tîm rygbi dan 10 oed.

Aelodau Cyfetholedig Allanol

Richard Brown

Yn flaenorol, mae Richard wedi gwasanaethu fel Llywodraethwr rhwng 2016 a 2018. Wedi iddo gamu i lawr oherwydd pwysau gwaith, mae e’n hapus i fod yn ôl yn Coleg Gwent fel Aelod Allanol o’r Pwyllgor Archwilio. Mae e’n Brif Swyddog Cyllid ar gyfer Asiantaeth Llywodraeth fawr ac mae’n meddu ar brofiad helaeth ym meysydd cyllid a masnach. Mae Richard hefyd yn gwasanaethu fel Trysorydd ac Ymddiriedolwr eglwys leol.

Farishna Chohan-Solanki

Ymunodd Farishna â ni fel Aelod Allanol o’r Pwyllgor Archwilio ym mis Ebrill 2023. Mae’n Rheolwr Cyllid ac mae’n gyfrifol am feysydd risg, rheoli, llywodraethu a rheoleiddio. Hefyd, mae ganddi brofiad o weithio fel archwilydd yn y sector addysg ac mae’n gyd-berchennog/Cyfarwyddwr busnes teulu mewn podiatreg.

Mariam Rauf

Mae Mariam yn aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Cwricwlwm ac Ansawdd. Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Ymgysylltu Partneriaethau Byd-eang ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac, yn flaenorol, mae wedi gweithio mewn rolau ym meysydd diogelu, gwaith ieuenctid a chydlyniant cymunedol. Mae gan Mariam ddiddordeb cryf yn rôl addysg i gefnogi cymunedau difreintiedig. Yn 2023, cymerodd ran yn y fenter Llwybr i’r Bwrdd. Nod y rhaglen hon yw rhoi’r sgiliau i arweinyddion newydd o gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli er mwyn cyfrannu’n effeithiol ar lefel y Bwrdd. Mae Mariam hefyd yn gwasanaethau fel llywodraethwr ysgol yng Nghaerdydd.

Swyddog Llywodraethu

Marie Carter

Mae Marie wedi bod yn Swyddog Llywodraethu ers mis Mehefin 2015. Hi sy’n gyfrifol am weithredu’r Bwrdd o ddydd i ddydd, gan roi cyngor iddo ar weithdrefn a pholisi, trefnu a chofnodi cyfarfodydd a chadw cofnodion. Mae hi hefyd yn gweithredu fel Swyddog Rhyddid Gwybodaeth i’r Coleg. Mae Marie wedi gweithio yn Coleg Gwent ers 2008, mewn swyddi cefnogi dysgwyr a swyddi addysgu yn y gorffennol. Cyn hynny, roedd ganddi yrfa yn y Gwasanaeth Sifil a oedd yn cynnwys sawl blwyddyn fel Clerc i bwyllgor cynghori’r Llywodraeth yn Llundain.