
Mae ein bwyty arddangos ar ein campws Crosskeys yn cynnig gwasanaeth ardderchog a gwerth am arian arbennig, ynghyd â phrydau blasus a rhestr gwinoedd eang, i greu profiad bwyta dymunol, a phopeth wedi ei goginio gan ein cogyddion sydd dan hyfforddiant sydd mor frwd dros fwyd â chi.
Gyda phrydau traddodiadol a rhanbarthol wedi eu paratoi gyda’r cynhwysion mwyaf ffres, byddwch o hyd yn gweld rhywbeth i’ch temtio yn ein bwyty hamddenol a chyfeillgar.
Bydd aelod o staff yn ymateb ar ôl dydd Llun 4 Medi.
Bydd y gwasanaeth cinio Nadolig yn cychwyn ddydd Mawrth 28 Tachwedd tan ddydd Mercher 20 Rhagfyr (dydd Mawrth tan ddydd Gwener) bwydlen i’w gadarnhau, pris y pen: £25.
Gwasanaeth Swper/Pryd Nos ddydd Mawrth yn unig, £27 y pen.
Digwyddiadau preifat
Mae Morels yn lleoliad gwych ar gyfer digwyddiad neu barti preifat. Gallwn eich helpu i drefnu eich digwyddiad, yn ogystal â darparu bwyd, gwasanaeth a gwerth am arian arbennig o dda.
Mae’r bwyty ar agor ar gyfer digwyddiadau a phartïon preifat ar nos Fawrth, rhwng 6.30 – 8.30pm.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01495 333496, neu e-bostiwch morels@coleggwent.ac.uk
Amseroedd agor
Rydym ar agor amser cinio dydd Mawrth, Mercher, Iau a Gwener ar gyfer eisteddiad 12.15pm, swper dydd Mawrth ar gyfer eisteddiad 7.00pm (Yn ystod y tymor yn unig).
Archebu bwrdd
Ffoniwch: 01495 333496
E-bostiwch: morels@coleggwent.ac.uk