En

Hyfforddiant Proffesiynol

Hyfforddiant

Yn Coleg Gwent rydym yn deall y pwysigrwydd o gael gweithlu cymwys a medrus. P’un a oes angen hyfforddiant arnoch i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol neu dim ond eisiau rhoi hwb i gymhwysedd a hyder eich staff, gallwn ddarparu cwrs sy’n addas i chi.

Rydym yn cynnal cyrsiau hyfforddi cyhoeddus rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, sy’n ymdrin ag amrywiaeth o sectorau, o Arlwyo i Adeiladu.  Defnyddiwch y blwch chwilio isod i bori dyddiadau’r cyrsiau sydd ar y gweill gennym ac archebwch eich lle heddiw!

Hyfforddiant Pwrpasol

Methu darganfod yr union beth rydych chi’n chwilio amdano ar ein cyrsiau cyhoeddus sydd wedi’u hamserlennu? Neu efallai bod gennych chi gryn dipyn o staff i’w hyfforddi a’ch bod yn dymuno cynnal ychydig o sesiynau ar y safle?

Wrth weithio mewn partneriaeth agos gyda chi, gallwn lunio cynllun hyfforddi pwrpasol neu ddatblygu cwrs sydd yn ateb gofynion eich busnes yn berffaith.

Efallai bod gennych fwlch o ran sgiliau yn eich gweithlu, angen hyfforddi eich gweithwyr i lefel uwch, neu eisiau i’ch busnes fodloni safonau’r diwydiant. Boed yn gwrs byr neu’n ddatblygiad staff parhaus, bydd ein tîm profiadol yn eich cefnogi ar hyd y daith.

Mae gennym gyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf mewn 5 sir ledled De Ddwyrain Cymru, neu gallwn ddarparu hyfforddiant mewn lleoliad o’ch dewis, gan gynnwys eich safleoedd eich hun, ac ar amser sy’n gyfleus i chi. Mae gennym hefyd fynediad i sawl cyfleuster hyfforddi arbenigol oddi ar y safle, sy’n golygu y gallwn gynnig profiad ymarferol fwy neu lai ym mhob ardal.

Gallwch bori rhai o’n cyrsiau pwrpasol mwyaf poblogaidd drwy ddefnyddio’r teils llywio isod. Neu fel arall, os oes angen rhywbeth ychydig yn wahanol arnoch, trafodwch â’n cynghorwyr ymgysylltu â chyflogwyr profiadol drwy employers@coleggwent.ac.uk.