Beth yw’r lefel cwrs cywir i mi?

Learner smiling holding a pen

Ddim yn siŵr pa gymhwyster yr ydych yn chwilio amdano neu pa lefel i gychwyn arni?

Dyma ganllaw i’ch helpu i ddewis y lefel gywir a dangos y math o swydd y gallai arwain ati.

Lefel Cymhwyster Lefel swydd
Dysgu galwedigaethol Dysgu academaidd Dysgu seiliedig ar waith
Mynediad / Sylfaen Sgiliau Sylfaenol / Sgiliau Bywyd
1 Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 1 TGAU (D-G) Cynllun hyfforddiant NVQ1 Gweithredydd
2 Tystysgrif Lefel 2 2 TGAU (A*-C) Prentisiaeth NVQ2 Gweithredydd lled-fedrus
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 3 TGAU (A*-C)
Diploma Lefel 2 4 TGAU (A*-C)
3 Tystysgrif Lefel 3 1 Safon UG Uwch Brentisiaeth
NVQ 3
Technegydd
uwch, Goruchwyliwr medrus
Diploma Atodol Lefel 3 1 Safon Uwch
Diploma Lefel 3 2 Safon Uwch
Diploma Estynedig Lefel 3 3 Safon Uwch
4 HNC Tystysgrif Addysg Uwch Prentisiaeth
Uwch
NVQ 4
Gweithiwr proffesiynol ym maes rheoli
5 Gradd sylfaen, HND Diploma
mewn
Addysg
Uwch
6 Gradd Anrhydedd Gweithiwr
proffesiynol
siartredig
7 Gradd Meistr / Doethuriaeth NVQ 5

Esboniad O’r Derminoleg

Carpentry student working on a set of stairs

Dysgu galwedigaethol

Mae cyrsiau dysgu sy’n gysylltiedig â galwedigaeth yn ymarferol yn bennaf gyda rhywfaint o astudiaeth theori hefyd.

A level students sat in class

Dysgu Academaidd

Mae dysgu academaidd yn seiliedig yn bennaf neu’n gyfan gwbl ar astudiaeth ar sail theori, mae’r rhan fwyaf o’r cymwysterau Safon Uwch yn cael eu hystyried fel cymwysterau sy’n seiliedig ar ddysgu academaidd.

Heating engineer student in the workplace

Dysgu’n Seiliedig ar Waith

Gyda dysgu’n seiliedig ar waith byddwch fel arfer yn treulio 80% o’r amser mewn lleoliad gwaith a 20% yn y coleg.

Student with glasses smiling at teacher

Oeddet ti’n gwybod?

Gall myfyrwyr sy’n astudio Diploma Lefel 3, 90 Credyd fynd ymlaen i Ddiploma Lefel 3, 180 Credyd yn yr ail flwyddyn ar ôl iddynt gwblhau’r Diploma 90 Credyd yn llwyddiannus.

Mae ein cyrsiau galwedigaethol Lefel 3 yn denu pwyntiau Tariff UCAS, yn union fel Safon Uwch. Mae’r nifer yn dibynnu ar eich cwrs.