Sut i Wneud Cais

Gwneud cais am gwrs gyda Coleg Gwent
Ydych chi'n ystyried astudio yn Coleg Gwent? P'un a oes diddordeb gennych mewn cyrsiau llawn-amser, Lefelau A, cymhwyster lefel gradd neu opsiwn rhan-amser, mae gwneud cais yn hawdd — ac rydym ni wrth law ar bob cam o'r ffordd.

modal video

Lefelau A
Mae gwneud cais i ddilyn cyrsiau Lefel A yn Coleg Gwent yn hawdd, ac rydym ni wrth law i helpu ar bob cam o'r ffordd. O ddewis eich pynciau i gyflwyno eich cais a pharatoi ar gyfer cofrestru, rydym ni wedi gwneud popeth yn haws i chi.

Cyrsiau llawn amser
Rydym wedi gwneud y broses ymgeisio mor syml â phosib. P'un a ydych chi'n gwybod yr hyn rydych chi am ei astudio neu'n penderfynu o hyd, byddwn yn eich tywys trwy bob cam o’r ffordd, o wneud cais hyd at gofrestru.

Cyrsiau Addysg Uwch
P'un a ydych chi'n edrych i ennill gradd brifysgol, gradd sylfaen neu Dystysgrif/Ddiploma Cenedlaethol Uwch, mae gwneud cais i ddilyn cwrs yn Coleg Gwent yn un rhwydd. O ddod o hyd i'r cwrs iawn i gofrestru a threfnu eich cyllid myfyrwyr, byddwn ni'n eich tywys trwy bob cam o’r ffordd.

Cyrsiau rhan amser
P'un a ydych chi'n edrych i ennill cymhwyster neu dim ond yn dysgu er mwyn hwyl, mae gwneud cais i ddilyn cwrs rhan-amser yn Coleg Gwent yn gyflym ac yn hawdd. Mae gan rai cyrsiau ofynion mynediad ac nid oes gan eraill – naill ffordd neu’r llall, byddwn ni'n eich tywys chi drwy'r hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf.

Prentisiaethau
Oes diddordeb gennych chi mewn hyfforddiant ymarferol neu brofiad gwaith go iawn wrth ennill cymhwyster cydnabyddedig? Mae dechrau ar brentisiaeth yn syml – cysylltwch â ni a byddwn yn eich tywys drwy'r camau nesaf.