Prentisiaethau

Ennill tra’ch bod yn dysgu gyda prentisiaeth yn Coleg Gwent!

Nid yw dysgu llawnamser i bawb - ac mae hynny'n iawn! Os oes well gennych chi hyfforddiant ymarferol a galwedigaethol, yna gallai prentisiaethau fod y ffordd berffaith i roi cychwyn ar eich gyrfa. Byddwch yn ennill cymwysterau gwerthfawr, datblygu sgiliau craidd ac ennill profiad gwaith go iawn - a hynny oll wrth ennill cyflog.

Dod o hyd i’r cwrs iawn i chi

Beth bynnag y llwybr o’ch dewis, byddwch yn elwa o diwtoriaid arobryn, cyfleusterau safon diwydiant ac amgylchedd dysgu cefnogol i chi allu teimlo'n gartrefol cyn hir.

Y prentisiaethau sydd ar gael yn Coleg Gwent

Rydym yn cynnig ystod eang o brentisiaethau yn niwylliannau sydd angen gweithwyr proffesiynol medrus, gan gynnwys:

  • Peirianneg fodurol - cerbyd ysgafn a thrwm
  • Peirianneg fodurol - trwsio a phaentio cyrff cerbyd
  • Gosod Brics
  • Gwaith Coed
  • Peirianneg Sifil
  • Peirianneg drydanol
  • Gosodiad trydanol
  • Electrodechnegol
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Lletygarwch ac arlwyo
  • Peirianneg fecanyddol
  • Plymio
  • Weldio
Teagan Smiling

A yw prentisiaeth yn addas i chi?

I ymgeisio ar gyfer prentisiaeth, bydd angen i chi fodloni'r meini prawf mynediad canlynol:

  • Bod yn gyflogedig yn y diwydiant perthnasol gan feddu ar gontract o gyflogaeth ac ennill o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol
  • Yn byw ac/neu yn gweithio yng Nghymru
  • Ddim mewn addysg llawn amser
  • Yn barod i gwblhau’r cymwysterau sydd yn tanategu’r Brentisiaeth
  • Yn 16 mlwydd oed neu hŷn.
Apprentice Plumber in plumbing bay with kit

Mae Coleg Gwent wedi bod yn anhygoel - mae'r dysgu ymarferol, tiwtoriaid cefnogol, a chyfleusterau gwych wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Rwy'n ennill y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnaf ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Emma - Plymio

Ddim mewn gwaith eto? Dim problem!

Os nad oes gennych chi gyflogwr eto, peidiwch â phoeni - gallwch ddechrau dilyn cwrs llawnamser yn Coleg Gwent ac yna newid i brentisiaeth unwaith eich bod yn dod o hyd i swydd. Rydym hefyd yn cynnig cyngor ar ddod o hyd i gyflogaeth, felly bydd gennych chi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau arni.

Cymerwch y cam nesaf

Os ydych chi'n barod i roi cychwyn ar eich gyrfa newydd gyda phrentisiaeth, rydym ni wrth law i helpu. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau. Galwch ni ar 01495 333777 neu anfonwch e-bost atom yn apprenticeships@coleggwent.ac.uk.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy