Amseroedd Cau Dros Y Nadolig

Mae'r coleg bellach ar gau tan ddydd Llun 5 Ionawr. Os ydych wedi gwneud ymholiad am gwrs neu wedi gwneud cais i ymuno â ni ym mis Ionawr, byddwn yn anelu at ymateb o fewn 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i ni ail-agor.

Dymunwn Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.

Campws Brynbuga

Usk campus in sunshine

Os ydych chi wrth eich bodd â’r awyr agored, Brynbuga yw’r lle i chi; lle llawn hanes lleol, yng nghanol cefn gwlad prydferth Sir Fynwy. Dyma hafan i'n cyrsiau tir-seiliedig a ffitrwydd sy'n cynnwys canolfan hyfforddiant nyrsio milfeddygol, canolfan gofal anifeiliaid, ysgol geffylau awyr agored a dan do, campfa llawn weithredol, caeau chwaraeon ac ystafell ddadansoddi perfformiad.

Mae’n hawdd cyrraedd y campws o Drefynwy, y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Magwyr, Pont-y-pŵl a Chasnewydd, ac mae’n agos at draffordd yr M4. Mae’r campws yn cynnwys Canolfan Dysgu modern; Canolfan Addysg Uwch newydd a chaffi newydd ar gyfer myfyrwyr.

Lle mae dod o hyd i ni

location_on Coleg Gwent
Campws Brynbuga
Brynbuga
Sir Fynwy
NP15 1XJ

Barod i ymuno â ni ar Gampws Brynbuga

Archwilio ein cyrsiau