Addysg Uwch ac Astudio Lefel Gradd

Llwybrau addysg uwch a lefel gradd, yn agosach at adref

Yn breuddwydio am gymhwyster addysg uwch ond ddim eisiau symud i ffwrdd na wynebu costau uchel prifysgol? Yn Coleg Gwent, gallwch astudio cyrsiau lefel prifysgol yn lleol ar draws ein campysau yn Ne Ddwyrain Cymru, gan arbed amser ac arian wrth weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig a ddyfernir gan bartneriaid prifysgol yn y DU ac sy’n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr.

Mae ein cyrsiau addysg uwch yn cynnwys HNC, HND, graddau sylfaen a chyrsiau ychwanegu at radd, oll wedi’u cynllunio i’ch cefnogi i symud ymlaen tuag at radd lawn. Gyda dewis eang o lwybrau ar gael, gallwch gymryd y cam nesaf heb yr angen i symud cartref neu gymudo pellteroedd hir.

P’un a ydych yn edrych i symud ymlaen yn eich rôl bresennol, newid gyrfa, neu barhau â’ch addysg ar ôl coleg, gallwch astudio addysg uwch yn agos at adref mewn ffordd sy’n ffitio o amgylch gwaith, bywyd ac ymrwymiadau presennol.

 

Dewch o hyd i'ch cwrs a chymerwch y cam nesaf

P'un a ydych chi'n chwilio i roi hwb i'ch rhagolygon gyrfaol, ennill sgiliau newydd neu ddatblygu'ch addysg ymhellach, gall ein cyrsiau lefel prifysgol fod yn ddelfrydol i chi. Archwiliwch eich opsiynau a chymerwch y cam nesaf tuag at eich dyfodol gydag addysg uwch yn Coleg Gwent.

Student Smiling

Cwrdd ein myfyrwyr

Tutor and student in the Cyber Hub
Student working on body art
Smiling tutor with students
Student standing in the sun at the equestrian centre
Students smiling outside Crosskeys Campus

Cwrdd Adam and Liam - Myfyrwyr Hyb Seiber

Tutor and student in the Cyber Hub

Dyma Madison - HND mewn Coluro Arbenigol

Student working on body art

Dyma Michelle - Myfyriwr Artist Dylunydd Gwneuthurwr

Smiling tutor with students

Dyma Rachel - Myfyriwr BSc mewn Astudiaehau Ceffylau

Student standing in the sun at the equestrian centre

Dyma Laura, Eve a Courtney - Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod

Students smiling outside Crosskeys Campus

Mae ein tiwtoriaid mor gefnogol ac yn llawn gwybodaeth. Mae’r cyfleusterau a’r offer yn anhygoel! Rwyf wedi ennill cymaint o hyder ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol

Scarlet - HND Colur Arbenigol

Digwyddiadau i ddod

Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Cyrsiau addysg uwch
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent - Glynebwy
Amser
2yp - 5yp
Ymgeisiwch nawr